Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mehefin 2014

“Cymru’n gwario mwy nag erioed ar ofal canser” – Mark Drakeford

Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher yn dangos bod y GIG yng Nghymru yn gwario mwy nag erioed ar ofal canser.
 
Mae’r ffigurau, a gyhoeddwyd fel rhan o gyhoeddiad blynyddol Cyllidebau Rhaglen Wariant y GIG, yn dangos bod gwariant GIG Cymru ar ofal canser ar ei lefel uchaf erioed.
 
Mae ffigurau 2012-13 yn dangos bod y cyfanswm gwariant wedi cynyddu o £356.8m yn 2011-12 i £360.9m yn 2012-13, a bod y gwariant y pen o’r boblogaeth wedi cynyddu o £116.44 yn 2011-12 i £117.41 yn 2012-13.
 
Mae hyn £10 yn fwy y pen nag yn Lloegr – yn 2012/13, £107.21 oedd y gwariant y pen ar ganser yn Lloegr.
 
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod y buddsoddiad yn cael ei wneud mewn triniaethau canser clinigol effeithiol, lle mae tystiolaeth eu bod yn gweithio.
 
Ers datganoli, yng Nghymru y bu’r gwelliant mwyaf mewn goroesi canser o blith pedair gwlad y DU. 
 
Canfu Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru 2013, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan, fod 89% o gleifion o’r farn bod eu gofal yn rhagorol neu’n dda. Roedd hyn yn codi i 97% o gleifion oedd yn credu bod eu gofal canser yn dda.
 
Wrth groesawu’r ffigurau, dywedodd yr Athro Drakeford: “Rwy’n benderfynol o sicrhau bod pob claf yng Nghymru yn cael y gofal o’r ansawdd gorau y mae eu hangen arnyn nhw ac y maen nhw’n ei haeddu. Mae’n galonogol bod yr Arolwg Profiad Cleifion Canser diweddaraf yn dangos bod cynifer o gleifion wedi cael profiad cadarnhaol yn eu gofal canser.
 
“Mae’r ffigurau hyn yn dangos ein bod ni bellach yn gwario mwy nag erioed ar ofal canser yng Nghymru. Mae hyn ein dangos ein hymrwymiad llwyr i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd sy’n cynnig y canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru.
 
“Mae hyn yn golygu buddsoddi mewn meddyginiaethau lle mae tystiolaeth eu bod yn gweithio. Rwy’ wedi gwrthod galwadau sawl gwaith i sefydlu cronfa cyffuriau canser yng Nghymru. Byddai gwneud hynny yn blaenoriaethu canser dros gyflyrau eraill sy’n peryglu bywyd ac yn tynnu arian oddi wrth feddyginiaethau y mae tystiolaeth eu bod yn gweithio.”
 
Ychwanegodd y Gweinidog: “Mewn astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn y British Journal of Cancer ym mis Chwefror 2014, gwelwyd nad yw’r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr yn ei gwneud yn haws i gael meddyginiaethau canser cost effeithiol newydd o’i gymharu â Chymru, ac yn bwysicach roedd yn dangos ein bod yn cael meddyginiaeth sydd newydd eu lansio yn gynt sydd wedyn yn cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.
 
“Os yw meddyginiaeth yn effeithiol o safbwynt clinigol a chost, maen nhw ar gael fel mater o drefn drwy’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Drwy weithio ar sail tystiolaeth, mae pawb yn cael sicrwydd bod ein buddsoddiad yn canolbwyntio ar fanteision iechyd, cymdeithasol ac economaidd, waeth pa glefyd y maen nhw neu eu hanwyliaid yn dioddef ohono.”
 
 

Rhannu |