Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mehefin 2014

Teulu newydd o weilch y pysgod i Gymru

Mae pâr newydd o weilch y pysgod wedi ymuno ag un o glybiau mwyaf egsgliwsif Cymru ar ôl ddau gyw bach ddeor ar safle ym Mhowys.

Deorodd y cywion yr wythnos ddiwethaf ar safle coetir Llywodraeth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru a gwylwyr adar lleol, sy'n monitro'r nyth, yn dweud eu bod wedi gweld pennau dau gyw bach yn dod i'r golwg wrth gael eu bwydo.

Meddai Steve Cresswell, Rheolwr Rhanbarthol Coedwigo, Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mi wnaethom ni sylwi gyntaf ar y ddau aderyn ar y safle nythu ganol mis Ebrill, a chafodd yr wy cyntaf ei ddodwy bythefnos wedyn. Nid ydym ni'n siŵr o ble mae'r adar wedi dod oherwydd nid oes ganddynt fodrwyau ac rydym yn credu mai dyma ymgais cyntaf y pâr mae'n debyg i fridio yng Nghymru.

"Bu rhai pryderon ynghylch diogelwch yr wyau pan ymddangosodd dau walch y pysgod ifanc arall y mis diwethaf a cheisio meddiannu'r nyth, ond llwyddodd y rhieni i ddal eu tir ac roeddem wrth ein bodd pan ddeorodd y cywion."

Dyma'r trydydd pâr yn unig o weilch y pysgod i fridio yng Nghymru, ceir pâr yn Nyffryn Glaslyn, ger Porthmadog ac un arall yn Nyffryn Dyfi, ger Machynlleth.

Daeth pâr Dyfi, sef Monty a Glesni, hefyd yn rhieni dros y penwythnos pan ddeorodd un o'r ddau wy yn eu nyth.

Ychwanegodd Steve: "Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y cynefin yn addas ar gyfer pob rhywogaeth gan gynnwys gweilch y pysgod.

"Mae'r gwaith hwn yn golygu rheolaeth ofalus o'r amgylchedd ac ansawdd y dŵr ac mae ein hymdrechion wedi cael eu gwobrwyo diolch i'r newydd ddyfodiaid hyn. Buom hefyd yn brysur yn codi llwyfannau nythu i wneud y safle yn fwy atyniadol i weilch y pysgod."

Ni ellir ddatgelu union leoliad y nyth er mwyn diogelu'r cywion a rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt oroesi.

I weld gweilch y pysgod a'u cywion yng Nghymru, argymellir ymweldiad â Phrosiect Gweilch y Dyfi yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi, ger Machynlleth, lle ceir arsyllfa newydd ragorol.

Mae rhagor o wybodaeth yn www.dyfiospreyproject.com.

Rhannu |