Mwy o Newyddion
Ysgrifenydd Gwladol yn trin Cymru yn “eilradd”: Elin Jones
Mae Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Elin Jones AC wedi dweud fod Ysgrifennydd Gwladol Torïaidd Cymru yn trin Cymru fel “cenedl eilradd”.
Yn y ddadl yn y Cynulliad ddydd Mercher ar Araith y Frenhines cynigodd Plaid Cymru welliant yn beirniadu’r ffaith fod Llywodraeth y DG wedi llyffetheirio pwerau trethu Cymru trwy osod cymal cloi cyfraddau.
Bwriad y cymal cloi cyfraddau yw atal unrhyw bwerau trethu Cymreig newydd rhag cael eu defnyddio, ac fe’i gollyngwyd gan y Ceidwadwyr yn yr Alban. Mae Prif Weinidog y DG David Cameron wedi croesawu cynigion i ollwng cloi cyfraddau i’r Alban. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn mynnu cadw’r cymal cloi cyfraddau yng Nghymru.
Dywedodd AC Plaid Cymru Elin Jones: “Mae’r Ysgrifennydd Gwladol Torïaidd yn trin Cymru fel cenedl eilradd. Mae David Cameron wedi croesawu’r cynigion a wnaed i ollwng cloi cyfraddau yn yr Alban, ond all ei Ysgrifennydd yma ddim mynd mor bell â chytuno ag ef.
"Efallai ei fod o’r farn nad ydym ni yng Nghymru yn ddigon galluog o gymharu â’r Alban, neu nad ydym yn haeddu triniaeth deg.
“Mae’r cymal cloi cyfraddau yn golygu y bydd dwylo Llywodraethau Cymru yn y dyfodol wedi eu clymu gan San Steffan, ac na fyddant yn medru cael y pwerau i fenthyca a chodi arian er mwyn gwella’r economi. Y syniad yw gwneud y pwerau ariannol yn ddiwerth, fel na chânt eu defnyddio fyth.
“Mae Plaid Cymru yn glir o’r farn na ddylai unrhyw lywodraeth yng Nghymru gael ei thrin mor sarhaus â hyn, a dyna pam ein bod yn ymgyrchu i gael y fargen orau bosib ar bwerau ariannol.”
Llun: Elin Jones