Mwy o Newyddion
Symud pencadlys BBC Cymru i ganol Caerdydd
Mae’r BBC wedi cyhoeddi cynlluniau i symud ei phrif bencadlys yng Nghymru i ganolfan ddarlledu newydd yng nghanol dinas Caerdydd erbyn 2018.
Dywed BBC Cymru Wales, sydd ar hyn o bryd yn Llandaf yng ngogledd orllewin Caerdydd, ei bod yn bwriadu symud i ddatblygiad 150,000 troedfedd sgwâr newydd yn Sgwâr y Brifddinas – ar safle’r orsaf fysiau bresennol wrth fynedfa ogleddol gorsaf drenau Caerdydd Canolog.
Daw’r penderfyniad yn dilyn astudiaeth tair blynedd fanwl i’r hen gyfleusterau ar y safle presennol yn Llandaf a’r angen cynyddol i foderneiddio’r dechnoleg annibynadwy. Cafodd opsiynau i uwchraddio’r safle presennol eu diystyru gan eu bod yn fwy costus, yn amharu’n fwy ac y byddent wedi cymryd yn hirach i’w cwblhau.
Bydd y ganolfan newydd tua hanner maint yr adeilad presennol ac yn rhatach i’w chynnal.
Mae cyhoeddi’r safle sydd wedi’i ffafrio gan y BBC i’w ddatblygu – ac sydd wedi derbyn sêl bendith Bwrdd Gweithredol y BBC ac Ymddiriedolaeth y BBC – yn amodol ar gwblhau cytundebau cyfreithiol yn ystod y misoedd nesaf. Disgwylir i werthiant y safleoedd presennol ar Heol Llantrisant yn Llandaf helpu i ariannu’r datblygiad newydd.
Mae disgwyl hefyd i benderfyniad y BBC fod yn hwb ar gyfer prosiect adfywio dinesig mwyaf y brifddinas ers degawdau, gyda’r ddinas yn datblygu cynllun sylweddol newydd ar gyfer ochrau gogleddol a deheuol gorsaf Caerdydd Canolog.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Mae’r cynlluniau ar gyfer Sgwâr y Brifddinas nid yn unig yn gwneud synnwyr gwych yn ariannol, ond maen nhw hefyd yn torri tir newydd. Maen nhw’n darparu cyfle unwaith mewn oes i fynd llawer yn agosach at ein cynulleidfaoedd; i helpu i drawsnewid rhan o’n prifddinas, ac i weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i gryfhau enw da Cymru fel cymuned greadigol fyd enwog.
“Mae’r ganolfan ddarlledu newydd yn addo bod yn gartref anhygoel mewn lleoliad anhygoel yng nghanol y cyffro. Mae’r cyhoedd yn disgwyl y gorau gan y BBC – a bydd y datblygiad yma, o’r diwedd, yn rhoi’r offer, y dechnoleg a’r cyfleusterau i’n timau rhaglenni wasanaethu ein cynulleidfaoedd am ddegawdau i ddod.”
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Ein diwydiannau creadigol yw un o’n meysydd mwyaf deinamig ac sy’n tyfu gyflymaf o fewn yr economi yng Nghymru. Ry’n ni’n croesawu’r penderfyniad yma sy’n fuddsoddiad gwerth miliynau gan y BBC i Gymru, a fydd yn darparu pencadlys o’r radd flaenaf fel y gwelwyd yn Glasgow, Salford a Llundain. Mae’n arbennig o bwysig i bobl Cymru, sy’n disgwyl gwasanaeth darlledu cyhoeddus sy’n wir gynrychioli gwlad ddeinamig sydd wedi’i datganoli, gyda democratiaeth wleidyddol a diwydiant creadigol sy’n ffynnu.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Phil Bale: “Dyma newyddion cyffrous iawn i’r ddinas a bydd yn cyflymu ein cynlluniau ar gyfer yr ardal. Ar hyn o bryd, mae’r rhan yma o ganol dinas Caerdydd ddim yn rhoi’r argraff orau, a’n bwriad yw creu lle y bydd pobl Caerdydd yn falch ohono ac sy’n creu argraff ar ymwelwyr.
“Mae’r math yma o fuddsoddiad ond yn dod unwaith mewn cenhedlaeth. Mae’n hwb ar gyfer lle Caerdydd fel canolfan flaengar ar gyfer y diwydiannau creadigol yn Ewrop. Bydd y porth newydd yn dangos Caerdydd yn ei wir oleuni – prifddinas fodern a byrlymus sy’n tyfu’n gyflym ac sydd â chymaint i’w gynnig i fusnesau a’r rheiny sy’n dewis byw yma.”
Mae’r ganolfan newydd yn rhan o ddatblygiad gan Rightacres Property o Gaerdydd – a bydd yn gartref i dros 1,000 o staff – gan gynnwys staff BBC Cymru, BBC Finance a BBC Pensions, sydd i gyd wedi’u lleoli yn Llandaf ar hyn o bryd. Mae S4C eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau, mewn egwyddor, i rannu rhai gwasanaethau darlledu gyda’r BBC yn y ganolfan newydd.
Mae BBC Cymru wedi cadarnhau y bydd disgwyl i’r ganolfan ddarlledu newydd gyrraedd safon amgylcheddol uchaf y DU (BREEAM Outstanding) – safon sydd wedi’i wireddu’n barod yn stiwdios drama Porth y Rhath ym Mae Caerdydd, a agorwyd yn 2011.