Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mehefin 2014

Gwawdio Canmlwyddiant Dylan Thomas meddai'r gymdeithas!

Heddiw mae Cadeirydd Cymdeithas Dylan Thomas Prydain Fawr wedi gwneud cais i'r Cynulliad yn gofyn iddyn nhw ail-archwilio penderfyniad dadleuol Cyngor Sir Gâr i gymeradwyo lleoli twrbein gwynt 45m gyferbyn â Boathouse Dylan Thomas.

Mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, fe argymhellodd Swyddog Cynllunio'r sir y dylid gwrthod y cais am y twrbein ar Fferm Mwche, Llansteffan ond pleidleisiodd y Cynghorwyr yn erbyn ei gyngor ac o blaid cefnogi'r cais.

Mae ymgyrchwyr yn protestio yn erbyn y cynllun, gan honni y bydd y twrbein yn diffetha'r olygfa o'r Boathouse eiconig a'r Sied Sgwennu.

Mae'r gerdd gyntaf a gyfansoddwyd gan Dylan Thomas yn y Boathouse, 'Over Sir John's Hill', yn disgrifio'r olygfa a'r adar ysglyfaethus o'i flaen, a dywedir i ddelweddau'r bywyd gwyllt yn 'In October' a 'Poem on his Birthday' hannu o'r byd natur o amgylch y ty. Credir iddo hefyd gyfansoddi 'Do not go Gentle' a'r ddrama 'Under Milk Wood' yn y fan hon.

Rhyddhawyd cofnodion y Cyfarfod Cynllunio heddiw sy'n manylu ar gefnogaeth Cadeirydd newydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Daff Davies i'r cais, ac fe gyflwynodd araith i'r pwyllgor o blaid yr ymgeisydd. Yn ei araith fe fynegodd y Cynghorydd Davies ei siom ynglŷn â natur yr ymgyrch a drefnwyd gan y gwrthwynebwyr gan ddweud "allan o dros 400 o wrthwynebiadau doedd nifer helaeth ddim yn byw yn yr ardal ac na fyddent yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cais".

Meddai  Jeff Towns, Cadeirydd Cymdeithas Dylan Thomas Prydain Fawr: "Dwi wedi fy syfrdannu bod Cyngor Sir Gâr wedi caniatau'r cais. A dwi hyd yn oed yn fwy syfrdan nad ydyn nhw'n teimlo bod hyn o ddiddordeb a phwysigrwydd cenedlaethol. Mae delwedd eiconig Boathouse Dylan Thomas yn dennu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae'n rhaid ei amddiffyn."

Yn ei anerchiad parhaodd y Cynghorydd Davies i gwestiynnu'r gwrthwynebiadau gan ddweud bod "Bryn Mwche yn cael ei guddio gan goedwig wrth edrych o'r Boathouse a dywedodd nad oedd y Sied Sgwennu ar agor i'r cyhoedd. Teimlai felly bod yr impact ar yr olygfa'n finimal."

"Mae'r cais hwn yn gwawdio'r Canmlwyddiant sy'n cael ei ddathlu dros y byd" ychwanegodd Jeff.

Mae wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis, hefyd wedi gwrthwynebu'n ffurfiol i'r twrbein gwynt.

Mae Cymdeithas Dylan Thomas Prydain Fawr wedi gofyn yn swyddogol i'r Cynulliad i Alw'r Cais i Mewn a gobeithir y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymyrryd i wyr-droi'r penderfyniad. Gofynnir iddyn nhw i weithredu hyn cyn Cyfarfod Cynllunio nesaf Cyngor Sir Gâr ar Fehefin 19eg 2014.

Rhannu |