Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mehefin 2014

Lansio Cronfa Goffa Eirian Llwyd

Lansir cronfa goffa i’r arlynydd Eirian Llwyd ym mis Mefehin eleni, pan agorir arddangosfa  o’i gwaith yn Oriel Kooywood yng Nghaerdydd a bydd ei gwr Ieuan Wyn Jones yn dechrau ar daith gerdded noddedig ar hyd Clawdd Offa o’r De i’r Gogledd. Bu farw Eirian wedi salwch byr ym mis Ionawr eleni.

Bwriad y gronfa fydd i ddyfarnu gwobr flynyddol i artist ddefnyddio un o’r cyfryngau print i greu gwaith gwreiddiol. Bydd y gystadleuaeth yn agored i arlynwyr sy’n byw neu yn gweithio yng Nghymru.

Meddai ei gwr Ieuan Wyn Jones: “Mi roedd brwdfrydedd heintus Eirian wrth hyrwyddo printiadau gwreiddiol wedi ysgogi llawer i fentro i’r maes. Gyda dwy ffrind sefydlodd Y Lle Print Gwreiddiol, gan ddangos gwaith arlynwyr o Gymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yna mewn orielau led led Cymru. Y llynedd aethpwyd a gwaith yr arlynwyr i Frwsel ac i Amsterdam.

“Bwriad Eirian oedd i godi ymwybyddiaeth pobl o werth printiadau gwreiddiol fel cyfrwng celf yn eu hawl eu hunain, yn ogystal a bod yn ffordd forddiadwy o brynu gwaith gwreiddiol.

“Fel arlynydd dawnus ei hun, ymfalchiai Eirian mewn defnyddio’r cyfryngau print i’r eithaf, megis lithograff, torluniau pren, ysgythriadau a thorluniau lino. Byddai wrth ei bodd yn disgrifio’r dechneg mewn arddangosfeydd ac mewn gweithdai. Aeth ati o ddifrif i berswadio pobl o bob oed i fentro, a chymaint oedd ei brwdfrydedd a’i annogaeth mae llawer wedi gwneud hynny.”

Yn nes ymlaen yn y flwyddyn ac yn ystod  2015 fe drefnir arddangosfeydd eraill o waith Eirian yn y De a’r Gogledd ac fe fydd yr holl arian  o’r gwaith a werthir yn mynd i’r gronfa goffa.

Bydd y gystadleuaeth o dan nawdd y Gronfa yn cynnig gwobr o £1,000 yn flynyddol i’r print gorau, ac fe sefydlir panel o arbenigwyr i feirniadu’r gystadleuaeth.  Y gobaith fydd i’r wobr ysgogi nifer o artistiad newydd i fentro i’r maes ac i arbrofi drwy ddefnyddio technegau print.

Meddai Ieuan, “Heb fawr o hysbysebu a marchnata rydym eisies wedi codi dros £5,000 i’r Gronfa. Y gobaith fydd ychwanegu swm sylweddol drwy godi arian ar y daith gerdded a gwerthu printiadau Eirian. Bydd yr arddangosfa gyntaf yn y Kooywwod yn agor yn swyddogol ar 24 Mehefin. Fy ngobaith fydd cael nifer o ffrindiau i ymuno a mi ar y daith er mwyn rhannu’r profiadau a geir yn ogystal a gweld gogoniant y Gororau.”

Bydd modd gwneud cyfraniad i’r Gronfa drwy anfon siec yn daladwy i Gronfa Goffa Eirian Llwyd Jones, neu i gysylltu efo’r tim ar ebost ylle print@gmail.com i gael manylion y Banc. Gellir anfon y siec i Ty Newydd, Rhosmeirch, Llangefni, Ynys Mon LL77 7RZ.
 

Rhannu |