Mwy o Newyddion
Bwrdd yr Ardd yn cynyddu
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn falch i gyhoeddi apwyntio dau ymddiriedolwr newydd.
Mae Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru, yr Athro John Harries, a chyn-Arolygydd Parciau a Gerddi Hanesyddol Cadw, Dr Elizabeth Whittle, yn ymuno â’r Bwrdd.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Ardd, Mr Rob Jollife, a’r Gyfarwyddwraig, Dr Rosie Plummer, y byddai’r newydd ddyfodiaid i’r Bwrdd yn ‘gaffaeliad aruthrol’ i oruchwyliaeth strategol yr elusen hon yn Sir Gaerfyrddin.
Meddai Dr Plummer: “Mae gennym ystod amrywiol a rhagorol o ddoniau ar y Bwrdd yn barod, ond mae’r apwyntiadau hyn yn ychwanegu’n helaeth at ein gwybodaeth a’n profiad ym meysydd gwyddoniaeth a threftadaeth.”
Ychwanegodd: “ Hoffwn gymeryd y cyfle hwn i groesawu’n gynnes yr Athro Harries a Dr Whittle i’r tîm.”
Mae’r Athro John Harries, sy’n hanu’n wreiddiol o Aberafan, yn Athro Emeritws Ffiseg yng Ngholeg Imperial Llundain. Mae ef a’i wraig, Sheila, yn byw ym Mhenarth yn awr. Bu’n ddeiliad swyddi uchel a phwysig mewn llywodraeth ac academia, yn y Labordy Ffisegol Genedlaethol, yn Labordy Rutherford Appleton, y Coleg Imperial, ac, hyd at Ebrill 1913, roedd e’n Brif Ymgynghorydd Gwyddonol i Lywodraeth Cymru. Mae e’n ffisegydd atmosfferig, gyda phrofiad mewn astudiaethau lloerennaidd o’r Ddaear a’i hinsawdd. Dadlennodd ef a’i grŵp yr arwyddion clir cyntaf o’r gofod am dyfiant carbon deuocsid a nwyon tai gwydr eraill, a’u heffaith byd-eang ar hinsawdd y Ddaear.
Mae Dr Liz Whittle yn hanesydd gerddi a fu’n ymwneud yn agos â sefydlu a rhestru tirwedd Rhaglywiaethol yr Ardd. Mae ganddi wybodaeth a phrofiad eang o barciau a gerddi hanesyddol Cymru, ac ymddeolodd yn ddiweddar o’i swydd yn Arolygydd Parciau, Gerddi a Thirweddau Hanesyddol yn Llywodraeth Cymru (Cadw), swydd y bu ynddi am 21 mlynedd. Ysgrifennodd lyfr a llawer o erthyglau ar barciau a gerddi hanesyddol Cymreig. Mae hi ar hyn o bryd yn Llywydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, ac yn Ymddiriedolwraig i Ardd Nelson yn Nhrefynwy.
*Agorodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym Mai 2000 – yr ardd fotaneg genedlaethol gyntaf i’w sefydlu a’i hagor yn y mileniwm newydd. Mae’r Ardd yn elusen sy’n derbyn cefnogaeth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae cenhadaeth yr Ardd i ysbrydoli, addysgu a chadw, nid yn unig wedi ei gwneud hi’n lle hyfryd i ymweld â hi, ond hefyd yn atyniad hynod o ddiddorol a pherthnasol.
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh. Mae’r tâl mynediad yn £8.50 (consesiynau £7) i oedolion, a £4.50 i blant. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.