Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mehefin 2014

Gwerth £36 miliwn o brosiectau adfywio i’r Gogledd

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio wedi rhoi sêl ei fendith i werth £36 miliwn o brosiectau adfywio yn y Gogledd.
 
Mae Ynys Môn (£7.49m), Conwy (£12.02m), Sir y Fflint (£6.02m) a Wrecsam (£10.59m) i gyd wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus am arian y cynllun adfywio, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.  Mae’r Gweinidog nawr wedi enwi’r prosiectau gafodd eu cynnig gan yr awdurdodau lleol y mae bellach yn cynnig eu hariannu.
 
Meddai’r Gweinidog: “Dw i wrth fy modd â’r ystod o brosiectau rhagorol y byddwn yn eu cefnogi trwy’r cynllun.  Bydd nawdd Llywodraeth Cymru yn arwain at gynnal nifer o ddatblygiadau a gwelliannau cyffrous ledled y Gogledd gan greu cannoedd o swyddi a chan helpu cymunedau. 
 
“Nid yw’n gyfrinach mai fy mlaenoriaeth yw darparu mwy o gartrefi o ansawdd da ledled y wlad.  Fydd hi ddim yn syndod i chi felly mai dyna sy’n wraidd i lawer o’r prosiectau adfywio sydd ar y gweill.
 
“Mae rhai prosiectau’n targedu eiddo gwag i’w hadfer i fod yn gartrefi unwaith eto, denu mwy o bobl i fyw yng nghanol trefi a gwella ansawdd cartrefi a busnesau a’u helpu i fod yn fwy ynni effeithlon.
 
“Ond dw i wedi cymeradwyo arian mawr hefyd ar gyfer amrywiaeth o brosiectau gwahanol, gan gynnwys datblygu Glan Môr Bae Colwyn, Canolfan Datblygu’r Diwydiannau Creadigol a’r Celfyddydau yn Wrecsam, gwella golwg canol tref Glannau Dyfrdwy ac adfywio Neuadd Farchnad ar Ynys Môn.”
 
Roedd y Gweinidog yn siarad yn ystod ei ymweliadau â Bae Colwyn a Glannau Dyfrdwy lle cafodd weld rhai o’r ardaloedd fydd yn elwa ar y nawdd a chael trafod y manteision cymunedol gyda’r awdurdodau lleol dan sylw.
 
Ychwanegodd: “Dw i’n falch gweld bod cymaint o’r prosiectau sy’n cael eu cynnig gan awdurdodau lleol yn rhoi lle mor amlwg i’r gymuned.
 
“Ym Mae Colwyn er enghraifft, bydd y prosiect yn gwella allanolion dros 500 o gartrefi ac yn eu gwneud yn fwy ynni effeithlon.  Bydd y prosiect hwn yn dod â buddiannau i’r gymuned ac yn cael ei reoli gan y gymdogaeth, a bydd yn cynnwys cynllun benthyca i landlordiaid a phrosiect rhentu cymdeithasol.
 
“Ymhlith y cynlluniau ar gyfer Glannau Dyfrdwy y mae prosiect i wella golwg siopau yng nghanol y dref a chynllun grant i annog busnesau i fuddsoddi.  Bydd y prosiect yn prynu eiddo a safleoedd gwag ar gyfer eu defnyddio gan fusnesau yn y dyfodol ac ar gyfer eu hailddatblygu.
 
“Dyna ddau yn unig o’r prosiectau defnyddiol a  da sydd wedi’u cynnig a gall cymunedau yng Nghymru ddisgwyl ymlaen at weld prosiectau adfywio o’r radd flaenaf a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau llawer o bobl.”
 
 

Rhannu |