Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mehefin 2014

Cymorth y Dreth Gyngor yn parhau

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i amddiffyn aelwydydd agored i niwed ac aelwydydd ar incwm isel trwy barhau i roi’r hawl iddynt gael Cymorth y Dreth Gyngor am ddwy flynedd bellach,  meddai’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AC ddoe.

Yn 2013, datblygodd Llywodraeth Cymru drefniadau newydd i helpu  aelwydydd agored i niwed i dalu eu biliau o dan y Dreth Gyngor, ar ôl i Lywodraeth y DU ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor a thorri cyllid ar gyfer cynlluniau newydd yn eu lle.

Ers hynny, mae Cynllun Lleihau’r Dreth Gyngor wedi amddiffyn aelwydydd Cymru, ac mae penderfyniad heddiw’n cadarnhau bod y cymorth hwn yn parhau.

Dywedodd y Gweinidog: ”Mae amddiffyn yr unigolion hynny sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn un o flaenoriaethau pwysicaf y Llywodraeth hon. Dyna paham yr ydym wedi rhoi’r hawl i’r bobl hyn barhau i hawlio Cymorth y Dreth Gyngor yng Nghymru er gwaethaf diffyg sylweddol mewn cyllid.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £22 filiwn yn ychwanegol i ariannu’r cynllun yn 2013-14 a 2014-15, gan ddiogelu rhyw 320,000 o aelwydydd ledled Cymru. Rwy’n falch y bydd y cymorth hwn yn parhau am o leiaf ddwy flynedd arall.

“Bydd hyn yn helpu i wrthbwyso rhai o effeithiau diwygio lles yng Nghymru. I’r gwrthwyneb, yn Lloegr, mae dros ddwy filiwn o aelwydydd incwm isel yn talu mwy   o Dreth Gyngor ers i Fudd-dal y Dreth Gyngor gael ei ddiddymu. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gorau glas i amddiffyn aelwydydd ar incwm isel ac aelwydydd agored i niwed. Oherwydd fy mhenderfyniad bydd rhyw 320,000 o aelwydydd yng Nghymru’n parhau i gael eu hamddiffyn rhag cynnydd ym miliau’r Dreth Gyngor, a bydd dros 200,000 yn parhau i beidio â thalu unrhyw Dreth Gyngor o gwbl.”
 

Rhannu |