Mwy o Newyddion
“Gofal iechyd darbodus yn gofyn am gleifion darbodus”
Rhaid taro bargen newydd gyda phobl Cymru os yw’r Gwasanaeth Iechyd am barhau i ffynnu yn y cyfnod hwn o galedi, a thu hwnt i hynny. Dyna oedd neges y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, heddiw.
Wrth annerch cynhadledd flynyddol Conffederasiwn y GIG yn Lerpwl heddiw, dywedodd y Gweinidog mai rôl Llywodraeth Cymru yw creu’r amgylchiadau cywir i bobl fyw bywydau cyflawn ac iach.
Dywedodd ei bod yn gyfrifoldeb ar bawb i fanteisio ar yr amgylchiadau hyn a gofalu am eu hiechyd eu hunain, yn hytrach na rhoi’r cyfrifoldeb i’r Gwasanaeth Iechyd.
Er bod gwasanaethau’r GIG yn dal ar gael am ddim - yn unol â bwriad Aneurin Bevan - nid yw hynny’n golygu nad oes dim cyfrifoldeb ar bobl, meddai’r Athro Drakeford.
Mae Papur Gwyn diweddar Llywodraeth Cymru ar Iechyd y Cyhoedd yn ceisio helpu pobl i fyw bywydau mwy iach ac atal niwed, gyda chynigion i gyflwyno:
* isafswm pris am unedau o alcohol;
* safonau a rheoliadau ar gyfer ymarferwyr cosmetig;
* cyfyngiadau llymach ar werthu tybaco dros y we;
* cynnig i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus, yn yr un modd â chynhyrchion tybaco eraill.
Wrth annerch cynrychiolwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn y gynhadledd, dywedodd yr Athro Drakeford: “Mae cyfrifoldeb ar lywodraethau i greu’r amgylchiadau cywir i unigolion allu byw bywydau cyflawn ac iach, gan gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain.
“Mae dyletswydd ar bob un ohonom i ofalu amdanom ein hunain – ni sy’n berchen ar ein hiechyd, a ddylen ni ddim rhoi’r cyfrifoldeb amdano i’r gweithiwr iechyd agosaf, fel rydyn ni wedi’i wneud yn draddodiadol.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd ar gael i’n helpu pan fydd angen, ond mae cyfrifoldeb yn dod law yn llaw â hynny i ddefnyddio’i adnoddau’n ddoeth. Does dim cost o ddefnyddio’r Gwasanaeth Iechyd, ond mae cost o fod yn gyfrifol amdanom ein hunain.
“Dyma felly yw’r fargen newydd yn yr oes hon o galedi – dyma’r fargen o gydgynhyrchu ar lefel unigolyn ac ar lefel poblogaeth.
“Ar lefel unigol, mae’n rhaid i weithwyr iechyd a chleifion gydweithio, yn hytrach na bod cleifion yn rhoi eu problemau iechyd yn nwylo nyrsys, meddygon teulu neu ymgynghorwyr. All y sgwrs gyda chleifion ddim cychwyn bob tro gyda’r cwestiwn ‘Beth alla i ei wneud i chi?’, sy’n awgrymu mai’r gwasanaeth iechyd sy’n ysgwyddo’r baich am ddatrys popeth.
“Ar lefel poblogaeth, mae’r fargen newydd yn golygu bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain a chyfrifoldeb dros reoli’r galw ar y Gwasanaethau Iechyd. Bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i greu amgylchedd lle mae’n haws gwneud penderfyniadau mwy iach, gan hefyd ddiogelu Gwasanaeth Iechyd sy’n aros yn driw i egwyddorion Bevan o wasanaeth i bawb sydd yn deg ac am ddim pan fydd ei angen.”
Ychwanegodd: “Mae gan Gymru hanes cryf o ymateb i bryderon dinasyddion a chyflwyno rheoliadau ymarferol sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelu iechyd.
“Cymryd camau pendant ar y cyd i fynd i’r afael â phroblemau iechyd y cyhoedd yw un o’r cyfraniadau gorau y gall unrhyw lywodraeth ei wneud o hyd i iechyd a lles ei phobl. Ac rwy’n falch iawn bod gan Gymru draddodiad hir a blaengar o ran cymryd camau i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
“I’r rheini sy’n mynnu bod yn negyddol, mae unrhyw ymdrech i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn siŵr o arwain at gyhuddiadau o wladwriaeth faldodus. Ond mae ein cynigion ni, fel y rhai ym Mhapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, yn mynd ati i atal problemau drwy geisio ymyrryd lle mae’r potensial mwyaf i gael effaith hirdymor, o ran iechyd unigolion ac o ran helpu i osgoi’r costau uwch, yn ariannol ac yn gymdeithasol, a ddaw yn sgil afiechydon y mae modd eu hosgoi.”