Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mehefin 2014

Beth sy’n ein rhwystro rhag sefyll i gael ein ethol i’r Cynulliad?

Mae ymchwilwyr yng Ngholeg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor wedi ennill cytundeb ymchwil pwysig gan Fwrdd Taliadau Annibynnol Cymru y Cynulliad Cenedlaethol i nodi ac ymchwilio i rwystrau a all atal unigolion rhag cyflwyno eu henwau i gael eu hethol i'r Cynulliad.
 
Bydd yr ymchwil gan Brifysgol Bangor yn ceisio cael gwell dealltwriaeth am y rhwystrau, os o gwbl, sy'n atal unigolion gyda'r ymrwymiad a'r gallu gofynnol i sefyll etholiad, rhag gwneud hynny.
 
Mae Prifysgol Bangor wedi casglu ynghyd tîm o arbenigwyr amlddisgyblaethol blaengar i gynnal y project pwysig hwn, dan arweiniad yr Athro Catherine Robinson, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac Athro Ymchwil Polisi Cymdeithasol, yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a chadeirydd Cyfraith Fasnachol, a'r Athro  Kostas Nikolopoulos, Athro Gwyddorau Penderfynu a Chyfarwyddwr Ymchwil y Coleg.
 
Caiff y gwaith ei wneud gan ymchwilwyr o Ysgol y Gyfraith ac Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor. Bydd ymchwilwyr yn cyfweld ag aelodau presennol a chyn aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, darpar ymgeiswyr, aelodau annibynnol a swyddogion y pleidiau.
 
Maeddai'r Athro Phil Molyneux, Deon y Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas: “Rydym yn hynod falch bod y tîm amlddisgyblaethol hwn o Brifysgol Bangor yn cydweithio ar ddarn o ymchwil a fydd yn arwain polisi etholiadol yng Nghymru ac yn sail wybodaeth iddo, fel y caiff rhwystrau at etholadwyedd eu nodi, eu dadansoddi a'u dosbarthu, er mwyn helpu i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau diangen yn parhau i fodoli a fyddai'n rhwystro ymgeiswyr (sy'n gymwys fel arall) rhag caniatáu i'w henwau gael eu cyflwyno i’w hethol i'n Cynulliad Cenedlaethol. 
 
"Mewn cymdeithas ddemocrataidd fel hon a gynhelir ar hyd llinellau seneddol, mae’n hanfodol bod pob sector yn y gymdeithas yn teimlo y gallant gael eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, a pheidio â theimlo eu bod yn cael eu hallgau'n annheg o'r broses etholiadol. Felly rydym yn croesawu'r ffaith ein bod fel prifysgol wedi cael ein dewis i wneud y project ymchwil pwysig hwn ar ran y Bwrdd Taliadau."
 
Meddai Sandy Blair, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol: "Mae'r ymchwil hwn yn rhan bwysig o'n gwaith i sicrhau nad yw'r cyflogau a'r gefnogaeth sydd ar gael i aelodau o'r Cynulliad yn yr etholiad nesaf yn atal pobl sydd â'r gallu a'r diddordeb yn nyfodol Cymru rhag sefyll.  Bydd hefyd yn amlygu unrhyw ffactorau eraill - tu hwnt i'n cylch gorchwyl - sy'n gwneud pobl yn amharod i gyflwyno eu henwau. Edrychwn ymlaen at ystyried y gwaith gan Brifysgol Bangor yr haf hwn."

Rhannu |