Mwy o Newyddion
Ymuno i warchod moroedd Cymru
Ymgasglodd arbenigwyr morol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd ddoe ar gyfer cyfarfod i fynd i’r afael â rhai o’r problemau mwyaf y mae moroedd Cymru’n eu hwynebu.
Daeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, diwydiant pysgota Cymru, sefydliadau’r trydydd sector, y gymuned wyddonol, awdurdodau lleol a grwpiau hamdden ynghyd i gydweithredu i fynd i’r afael â’r lliaws o heriau y mae’r amgylchedd morol yn eu hwynebu.
Yn y cyfarfod cydweithiodd pobl ar ddatblygu mentrau arloesol gyda’r bwriad o wella iechyd y moroedd o amgylch Cymru a’r tu hwnt.
Cynhaliwyd y cyfarfod fel rhan o brosiect Partneriaeth y Moroedd Celtaidd, a arweinir gan WWF ac sydd â’i bencadlys yn swyddfa WWF Cymru yng Nghaerdydd. Bwriad y prosiect 4 blynedd, a ariennir gan LIFE+, yw sicrhau y rheolir y Moroedd Celtaidd mewn modd cynaliadwy, gan ganiatáu i’w bioamrywiaeth eithriadol a’u cynefinoedd naturiol ymadfer.
Dywedodd Dan Crook, Swyddog Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn WWF Cymru: “Gan fod ein heconomi forol yn tyfu, mae’r gystadleuaeth am le yn ein moroedd yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr amgylchedd morol. Mae pwysau fel llygredd, gorecsbloetio a’r newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ddinistriol ar gynefinoedd morol hollbwysig ac ar fioamrywiaeth.
"Er mwyn i ni fynd i’r afael â’r bygythiadau hyn yn iawn, bydd yn rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd.
"Mae dod â defnyddwyr y moroedd ynghyd gyda llywodraethau a gwyddonwyr yn hanfodol i greu ffyrdd arloesol o weithio a fydd yn gwarchod bywoliaeth pobl a hefyd yr amgylchedd.”
Nod y prosiect yw helpu’r gwledydd yn y Moroedd Celtaidd i sicrhau Statws Amgylcheddol Da o dan Gyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol yr Undeb Ewropeaidd – cyfarwyddeb a gyflwynwyd i warchod moroedd Ewrop.
Meddai cadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru, Jim Evans: “Mae Cymdeithas Pysgotwyr Cymru’n falch o gymryd rhan ym Mhrosiect Partneriaeth y Moroedd Celtaidd. Rydyn ni’n credu nad oes modd bodloni gofynion heriol Statws Amgylcheddol Da ond trwy gydweithio. Bydd sefydlu partneriaethau cynhwysol a gwybodus yn rhan ganolog o hyn yn ein barn ni.
“Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae 70% o boblogaeth y wlad yn byw ar y llain arfordirol, mae’r ardal hon yn cyfrannu £2.5 biliwn i gynnyrch domestig gros Cymru ac yn cynnal 96,000 o swyddi. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd cymdeithasol ac economaidd y parth morol i gymunedau glannau Cymru.
“Mae’n amlwg bod yna amrywiaeth fawr o grwpiau buddiant morol fydd eisiau cyfrannu at y broses hon ac rydyn ni’n credu bod partneriaethau’n ffordd allweddol o hwyluso ymgysylltu ehangach.
"Rydyn ni’n llongyfarch WWF ar fenter Partneriaeth y Moroedd Celtaidd ac yn edrych ymlaen at gyfrannu at y prosiect.”
Mae’r gweithdy yng Nghymru’n rhan o gyfres o chwech a gynhelir ar draws y Moroedd Celtaidd yn ystod yr haf. Ar ddiwedd y gweithdai y gobaith yw y bydd gan y prosiect nifer o brosiectau llai a fydd yn edrych ar fentrau penodol a all helpu i sicrhau y rheolir y Moroedd Celtaidd mewn modd cynaliadwy, gan ddiogelu’r amgylchedd a bywoliaethau pobl.
I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan prosiect Partneriaeth y Moroedd Celtaidd www.celticseaspartnership.eu