Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mehefin 2014

Croesawu llwyddiant Cymru ym maes allforio

Mae Gweinidog yr Economi wedi croesawu'r ffigurau allforio diweddaraf sy'n dangos bod Cymru wedi perfformio'n well na gwledydd eraill y DU dros y flwyddyn ddiwethaf.
 
Mae ffigurau allforio nwyddau chwarter cyntaf 2014 a gyhoeddwyd ddoe gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn dangos mai Cymru welodd y gyfradd fwyaf o gynnydd mewn allforion o bedair gwlad y DU ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2014, a'r cynnydd mwyaf ond un o holl wledydd a rhanbarthau'r DU dros yr un cyfnod.
 
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: "Dyma rywbeth cadarnhaol arall sy'n dangos bod economi Cymru yn perfformio'n well na rhannau eraill y DU.

"Mae masnach ryngwladol wedi bod yn flaenoriaeth i ni erioed, ac ers 1999 mae cynnydd o 129.1% wedi bod mewn allforion o Gymru, sef y cynnydd mwyaf o holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
 
"Wythnos nesaf byddwn yn anfon taith fasnach i Dde Affrica, sy'n cyd-fynd â thaith haf y tîm rygbi cenedlaethol, i adeiladu ar ein proffil uwch yn ystod y cyfnod hwnnw. Dyma un o gyfres o deithiau masnach ac arddangosfeydd tramor mewn 18 o wledydd gwahanol ar draws y byd a gaiff eu cynnal eleni.

"Mae gennym ni hefyd raglen gynhwysfawr o gymorth i helpu busnesau i ddatblygu marchnadoedd allforio sy'n bodoli eisoes a rhai newydd. Mae'r farchnad ryngwladol hefyd yn bwysig o ran denu prosiectau mewnfuddsoddi i Gymru ac rydym yn gosod y safon yn y maes hwnnw hefyd wrth i nifer y prosiectau buddsoddi gynyddu o bron 200% y llynedd, yn ôl ffigurau UKTI."
 

Rhannu |