Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mehefin 2014

Cyngor Abertawe yw'r cyntaf yng Nghymru i gofrestru ar gyfer Hinsawdd Leol

Mae dros 8,500 o oleuadau stryd arbed ynni wedi cael eu gosod yn strydoedd Abertawe fel rhan o ymgyrch ar draws y ddinas i arbed arian a bod yn fwy ystyriol o'r amgylchedd.

Mae Cyngor Abertawe wedi arbed oddeutu £130,000 y flwyddyn mewn treuliau gweithredu hyd yn hyn ar ôl gosod y goleuadau LED ac mae cynlluniau ar y gweill i osod miloedd o rai eraill yn y dyfodol.

Y cyngor yw'r cyntaf yng Nghymru i roi ymgyrch Hinsawdd Leol ar waith - cynllun cenedlaethol sy'n annog cynghorau yng Nghymru i ddatblygu cyfres o gamau gweithredu i leihau allyriadau carbon a chyd-nerthu ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Cydlynir y cynllun gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

Llofnododd Arweinydd Cyngor Abertawe, David Phillips, y ddogfen swyddogol sy'n nodi ymrwymiad y cyngor. Ymunodd y Cyng. Sybil Crouch, Aelod y Cabinet dros Gynaladwyedd, ag ef.

Meddai'r Cyng. Phillips, "Mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd mwy blaengar o ddarparu gwasanaethau ar gyfer trigolion Abertawe mewn modd sy'n fwy cost-effeithiol ac sy'n ein helpu i ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd.

Ychwanegodd y Cyng. Crouch, "Fel rhan o'r ymgyrch Hinsawdd Leol, mae'r cyngor yn ymrwymo o ddifrif i barhau i ddatblygu ffyrdd o ddarparu gwasanaethau a gweithio gyda chymunedau lleol i fynd i'r afael â materion megis tlodi tanwydd a llygredd."

Mae'r cyngor hefyd wedi cyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy blaengar mewn nifer o ysgolion fel rhan o'i ymdrechion i leihau costau ynni a bod yn ddinas wyrddach.

Mae gwaith newydd i ailddatblygu ysgolion gan gynnwys Ysgol Gyfun Treforys ac Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn elwa o gynlluniau sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Meddai'r Cyng. Mike Jones, Cadeirydd Bwrdd Amgylchedd a Thai y Gymdeithas Llywodraeth Leol, "Mae gan awdurdodau lleol gyfoeth o brofiad ac arbenigedd o ran ymdrin â'r heriau a ddaw law yn llaw â'r newid yn yr hinsawdd, ac mae'r rhain yn amrywio ar draws y wlad. Dyma pam mae'n allweddol fod awdurdodau lleol yn cael cymaint o hyblygrwydd â phosib i ddatblygu eu syniadau a'u strategaethau eu hunain.

"Bydd y cynlluniau yn Abertawe yn helpu i arbed arian a chyfrannu at ymdrechion i fod yn ddinas wyrddach ac rydym yn falch bod y cyngor wedi ymrwymo i'r fenter Hinsawdd Leol."

Mae'r cyngor hefyd yn ystyried datblygu rhwydwaith gwresogi rhanbarthol y gellir ei ddefnyddio i gynhesu amrywiaeth o gyfleusterau'r cyngor gyda ffynhonnell ganolog.

Meddai'r Cyng. Phillips, "Rydym eisoes yn gweithio'n galed mewn cymunedau lleol i gefnogi preswylwyr sy'n byw mewn tlodi tanwydd i leihau eu biliau gwresogi, gwella ein heffeithlonrwydd ynni ein hunain, lleihau gwastraff a gosod esiampl i eraill.

"Yr hyn y mae Hinsawdd Leol hefyd yn ei wneud yw ein helpu i gydnabod bod manteision economaidd i ddatblygu economi wyrddach mor lleol â phosib."

Ychwanegodd y Cyng. Crouch, "Mae lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd wir yn dechrau gartref. Er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd mae'n rhaid i filiynau o bobl wneud newidiadau bach bob dydd, a gall y cyngor wneud ei ran trwy osod esiampl."

Rhannu |