Mwy o Newyddion
Colli cyfleoedd i wella gofal diabetes i arbed arian a bywydau
Mae byrddau iechyd yn methu dysgu o dystiolaeth glir y gall ymyriadau i wella gofal diabetes arbed arian i'r GIG a galluogi pobl â diabetes i fyw’n hirach ac yn fwy iach. Mae hyn yn ôl adroddiad newydd gan Diabetes UK sy'n amlygu cyfres o fesurau sy'n gwella gofal ac yn lleihau costau.
Mae GIG Cymru'n gwario £500m y flwyddyn ar ofal diabetes ac mae'r adroddiad newydd yn dangos y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio'n aneffeithiol yn rhy aml, gyda'r mwyafrif helaeth yn cael ei wario ar drin cymhlethdodau y gellid bod wedi'u hatal yn aml pe bai'r person wedi cael gofal iechyd da yn y lle cyntaf.
Mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol tynn ar y GIG mae'r adroddiad, wedi'i seilio ar dystiolaeth gwaith ymchwil pendant, yn amlinellu ystod o fesurau ymarferol y gall byrddau iechyd eu mabwysiadu sydd wedi dangos eu bod yn gwella ansawdd gofal i bobl â diabetes ac yn lleihau costau. Mae nifer o'r mesurau hyn i'w gweld yng nghynlluniau diabetes byrddau iechyd ond fe'u cyflwynir yn wael.
Ymhlith yr enghreifftiau:
· Mae pobl â diabetes mewn perygl o ddatblygu problemau difrifol â'u traed a all arwain at dorri’u traed i ffwrdd os na chaiff y problemau eu rheoli'n gywir. Amcangyfrifir bod GIG Cymru'n gwario £30miliwn ar ofal traed ar gyfer pobl â diabetes. Mae'r adroddiad yn dangos bod timau gofal traed amlddisgyblaeth mewn ysbytai wedi mwy na haneru nifer y llawdriniaethau i dorri traed i ffwrdd a'u bod yn gallu arbed dros bedair gwaith eu cost, ond dim ond hanner yr ysbytai yng Nghymru sydd â thimau gofal traed amlddisgyblaeth ar gyfer pobl â diabetes.
· Gall addysg helpu pobl â diabetes i reoli'r cyflwr yn effeithiol gan leihau'r perygl o gymhlethdodau costus a gwanychol. Mae Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes Llywodraeth Cymru'n rhoi addysg a hunanreoli wrth galon ei strategaeth ond mae llawer o waith i'w wneud. Mewn rhai byrddau iechyd ni roddir unrhyw addysg ac ar hyn o bryd gall llai nag 1 o bob 3 o bobl sy'n ddioddefwyr diabetes newydd gael mynediad at addysg ledled Cymru. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod yr adroddiad newydd yn dangos tystiolaeth y gall addysg i bobl â diabetes leihau cymhlethdodau ac arbed arian i'r GIG.
Rhagwelir y bydd nifer y bobl â diabetes yng Nghymru yn codi o 173,000 i 288,000 erbyn 2025, a dywed Diabetes UK fod angen i'r GIG wella o ran dysgu o enghreifftiau o ofal diabetes da sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth. Mae'n galw hefyd ar fyrddau iechyd i weithredu'r mesurau a amlygir yn yr adroddiad.
Dywed yr elusen ei bod yn ymwybodol y gall fod yn anodd buddsoddi mewn un rhan o'r gwasanaeth iechyd os yw'r arbedion canlyniadol i'w gweld mewn rhan arall. Fodd bynnag, mae rhai o'r ymyriadau a amlygir yn yr adroddiad wedi dangos eu bod yn arwain at arbedion buan ac mae angen i fyrddau iechyd fod yn fwy hyblyg a derbyn yr angen i gronni cyllidebau ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilradd yn fwy.
Dywedodd Dai Williams, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: "Mae'r GIG yn gwario swm syfrdanol o arian ar ddiabetes ond nid yw'r arian yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol, sy'n golygu y bydd gennym fil enfawr yn y dyfodol.
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut y gall delio â phroblemau'n gynnar, megis trwy wella darpariaeth addysg a gofal traed gwell, arwain at leihau costau'n sylweddol a mwy o bobl yn byw’n hirach ac yn fwy iach. Gyda chymaint o dystiolaeth gadarn, mae'n anhygoel bod cynlluniau clir gan fyrddau iechyd i gyflwyno'r gwasanaethau hyn ond yna maent yn methu â'u cyflwyno.
"Gyda'r GIG yn gweithredu mewn cyfnod o gyllidebau llorweddol a nifer y bobl â diabetes yn cynyddu'n gyflym, mae'n bwysig iawn i fyrddau iechyd weld y darlun mwy. Un o'r manteision y dylid eu cael o system iechyd genedlaethol yw mabwysiadu arfer da yn gyflym ac yn gyffredinol.
"Yn syml, os ydy gwasanaeth yn profi ei fod yn gwella'r gofal a roddir i bobl â diabetes ac yn arbed arian, pam yn y byd na ddylai gael ei gyflwyno'n gyffredinol a chyn gynted â phosibl."