Mwy o Newyddion
Gweinidog yn llymach wrth fynd i’r afael â cham-drin domestig
Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi bygwth rhoi’r gorau i ariannu cymdeithasau tai os nad oes ganddynt bolisïau cam-drin domestig clir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â cham-drin domestig, ac mae’r £10 miliwn sydd wedi’i neilltuo drwy’r gyllideb Cefnogi Pobl i helpu dioddefwyr yn dangos hynny. Mae’r Gweinidog yn bendant ei farn y dylai’r sector cyfan rannu’r ymrwymiad hwn.
Meddai: “Mae’n ffaith drist bod y rhan fwyaf o achosion cam-drin domestig yn digwydd yn y cartref ac felly mae’n hanfodol bwysig bod y sector tai yn arwain y ffordd i fynd i’r afael â’r drosedd ddifrifol hon.
“Dw i wedi ysgrifennu at ddarparwyr tai cymdeithasol gan ddatgan fy mod i’n disgwyl iddyn nhw i gyd ddatblygu polisïau clir i fynd i’r afael â cham-drin domestig, er mwyn eu tenantiaid a’u staff. Dw i wedi gweld o lygad y ffynnon y gwahaniaeth y gall polisïau o’r fath ei wneud i unigolion agored i niwed, eu cymunedau a’r rhwydwaith cymorth ehangach, ac mae’n siomedig iawn nad yw pob darparwr tai yn gweithredu eto.
“O’r Bil Rhentu Tai i’r Bil Tai, ein bwriad ni yw rhoi mwy o sylw i atal cam-drin a chynnig cymorth cyn gynted â phosibl. Gallai hyn arbed rhai pobl rhag cael eu cam-drin trwy gydol eu hoes.
“Mae’n hanfodol bod pawb yn chwarae ei ran fel bod cymunedau ledled Cymru yn cael y cymorth gorau posibl. Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir: bydd Llywodraeth Cymru yn stopio’r arian os nad yw darparwr tai yn sefydlu polisi cynhwysfawr i ddelio â cham-drin domestig.”