Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mai 2014

Sicrwydd ariannol yn hollbwysig i ddyfodol S4C

Mae Prif Weithredwr S4C wedi rhybuddio bod derbyn arian digonol yn hanfodol i ddyfodol y Sianel Gymraeg.

Wrth gyflwyno araith ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala ddydd Mawrth am ddarpariaeth S4C dros y degawd a hanner nesaf, fe ddwedodd Ian Jones fod rhaid i’r sianel gael ei hariannu’n ddigonol, neu fyddai gwasanaethau’n cael eu peryglu. 

Yn ôl Mr Jones, bydd ariannu’r sianel yn ddigonol yn allweddol os yw S4C yn mynd i barhau i ddarparu gwasanaethau cynhwysfawr yn y Gymraeg, a hynny ar bob platfform a ddefnyddir yn eang.  Pwysleisiodd fod y darlledwr Cymraeg yn llwyddo i ymdopi â’r toriadau sydd wedi gwneud i’w gyllideb, ond bod rhaid cynllunio i alluogi’r gwasanaeth i esblygu gyda’r oes dros y degawd a mwy nesaf.

Yn ei araith, dywedodd Ian Jones: “Mae’n rhaid i’r rhai sy’n rheoli’r coffrau dderbyn bod sianel genedlaethol yn haeddu arian digonol.  Mae’n hen bryd i ni beidio â meddwl am S4C, fel rhyw Sinderela yn y byd darlledu.  Nid perthynas dlawd ddylai hon fod, ond trysor cenedlaethol.  Ac mae yna bris i’w dalu am hynny.”

Er nad oes gan S4C sicrwydd cyllidebol tu hwnt i Ebrill 2016, mae Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn rhoi dyletswydd statudol ar Ysgrifennydd Gwladol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sicrhau bod y darlledwr Cymraeg yn cael ei ariannu’n ddigonol.

Yn ei araith ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala, amlinellodd Ian Jones ei gynlluniau ar gyfer dyfodol hirdymor gwasanaethau’r sianel – gan ddweud bod angen sicrhau darpariaeth S4C i’r cenedlaethau newydd o Gymry ifanc.

Dywedodd Mr Jones ei fod am weithio gydag eraill i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n gyfrwng cyfoes wrth i dechnoleg newid arferion y cyhoedd ymhellach.

Cyhoeddodd ddogfen ymgynghorol ar yr un pryd, sy’n fan cychwyn i’r drafodaeth wrth i gyllideb y sianel gael ei thrafod yn ystod cyfnod adolygu Siarter y BBC, a chynllunio pleidiau gwleidyddol wrth i’r etholiad cyffredinol nesaf nesáu.  Yn S4C: Dyfodol Teledu Cymraeg, mae pwyslais cryf ar sicrhau bod yr iaith yn parhau’n berthnasol i fywydau bob dydd y gynulleidfa drwy wasanaethau’r sianel.

Mae’r ddogfen yn nodi sawl ffordd allweddol o wneud hynny:

·         Darparu gwasanaeth cynnwys cynhwysfawr o ansawdd ar gyfer cynulleidfaoedd fydd yn esblygu ac yn arloesi.

·         Cynnal a chynyddu’r gynulleidfa mewn byd cystadleuol, aml-blatfform.

·         Sicrhau annibyniaeth y sianel, gan gyfrannu tuag at gynnal tirwedd gyfryngol aml-ddarparwr yng Nghymru. 

Drwy gyflawni’r amcanion hyn, meddai Ian Jones, fe fydd S4C yn cyfrannu at ymdrechion i sicrhau bod y niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn cynyddu.

Mae’r ddogfen ymgynghorol yn sail i drafodaethau S4C ynglŷn ag ariannu’r sianel tua’r dyfodol.  Yn y ddogfen mae penaethiaid y Sianel yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal ffynonellau cyllid presennol S4C - sef tua 90% o’r gyllideb flynyddol o Ffi’r Drwydded, a tua 8% yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol (adran DCMS).

Ar ôl yr araith, meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Ar hyn o bryd, mae’r sefyllfa o ran cyllido S4C yn hynod ansicr a does ‘na ddim gwarant o’n cyllideb bresennol y tu hwnt i Ebrill 2016. 

"Ond be sy’n bwysig yw bod ‘na ddyletswydd statudol ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau bod y sianel yn cael ei hariannu’n ddigonol.  Felly nawr yw’r amser inni fod yn trafod union natur y gwasanaeth i’r dyfodol.  Os ydyn ni am sicrhau y bydd S4C yn dal i allu darparu gwasanaeth cyfryngau cyhoeddus cynhwysfawr yn y Gymraeg, ac os yw’r gwasanaeth hwnnw’n mynd i fod ar gael ar bob llwyfan sy’n cael ei ddefnyddio’n eang, bydd rhaid i’r pecyn ariannol fod yn ddigonol.

“Be sy’n bwysig inni gofio yw bod rhaid i ni gynllunio ar gyfer cyfnod pan fydd arferion gwylio pobl Cymru’n debygol o fod yn wahanol iawn i arferion heddiw.  Felly, mae ein golygon ni ar sicrhau bod S4C mewn sefyllfa i esblygu a symud gyda’r oes.  Does neb yn sicr ar hyn o bryd be fydd datblygiadau technolegol mawr y degawd nesaf – ond ry’n ni yn gallu bod sicr y bydd ‘na rai. 

“Mae’n holl bwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg ein bod ni’n dal i ddarparu adnoddau a gwasanaethau sy’n galluogi’r gynulleidfa i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddara yn eu hiaith eu hunain.  Heb hynny, fe allai’r Gymraeg ddod yn llai perthnasol i’n bywydau bob dydd.

“Fel mae S4C yn dangos dro ar ôl tro, mae cynnwys beiddgar a chyffrous y sianel yn codi’r bar o ran teledu yng Nghymru.  Yn naturiol, mae’n hollbwysig i gadw hynny o blwraliaeth sydd gyda ni yn y cyfryngau Cymreig, ond hefyd bod cynnwys y cyfryngau hynny ar gael i’w weld yn y ffyrdd y mae’r gynulleidfa’n eu dewis.”

 

Rhannu |