Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mai 2014

'Rhaid i Gymru beidio colli dim o arian teg HS2'

Dylai datblygu rheilffyrdd cyflym yn Lloegr fod yn sbardun economaidd i Gymru, meddai Plaid Cymru heddiw. Dywed Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth, fod gan Gymru hawl i £1bn o gyllid dros ddegawd fel cyfran deg o wariant HS2, ac y byddai buddsoddi yn rhwydweithiau trafnidiaeth Cymru ei hun yn galluogi economi Cymru i aros yn gystadleuol.

Cyfeiriodd AC Plaid Cymru at ddadansoddiad manwl a wnaed gan brif ymgynghorydd economaidd Plaid Cymru Eurfyl ap Gwilym, sydd yn dangos y byddai cyfran deg o arian HS2 i Gymru yn ffynhonnell bwysig o fuddsoddiad cyfalaf i economi’r wlad.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth: “Mae HS2 yn gyfle economaidd enfawr i rannau o Loegr. Dengys ymchwil a wnaed gan KPMG ei fod yn debyg o ddod ag enillion economaidd enfawr i Lundain a Birmingham, ond y gallai rhanbarthau eraill ddioddef – awgryma  KPMG y gallai Cymru golli cymaint â £200m y flwyddyn. I wrthweithio hynny, rhaid i ni allu buddsoddi yn ein seilwaith ochr yn ochr â datblygiad HS2.

“Gallai arian dilynol o £1 biliwn dros ddeng mlynedd drawsnewid rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Gallasem drydaneiddio’r holl brif reilffyrdd, fyddai’n rhoi Cymru yn bendant yn y lôn gyflym economaidd.

“Mae hwn yn gyfle economaidd na ddylai Cymru ei golli, ond yr unig ffordd y gall ddigwydd yw trwy i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid. Am hynny y mae Plaid Cymru  yn brwydro.”

Rhannu |