Mwy o Newyddion
Pwy fydd yr arwr yn Sioe Gynradd Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd?
Bydd llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd 2014 dan ei sang wrth i dros 100 o blant y sir berfformio sioe gerdd newydd sbon ‘Paid â Gofyn i fi’ yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn y Bala.
Mae cerddoriaeth y sioe yn seiliedig ar ganeuon Cymraeg adnabyddus grwpiau fel Edward H Dafis, Meic Stevens, Gwibdaith Hen Frân, Anweledig ac eraill. Fe’i haddaswyd ar gyfer y sioe gan y cyfarwyddwr cerdd, Owain Gethin Davies, gyda’r awdur Haf Llewelyn o Lanuwchllyn yn gyfrifol am y geiriau a’r sgript. Bydd y sioe yn sicr o dynnu torf i’r pafiliwn ar gyfer y perfformiad, nos Fawrth 27 Mai am 20:00.
Y canwr o’r Blaenau, Gai Toms sydd wedi creu anthem newydd sbon ar gyfer y sioe o'r un enw ‘Paid â Gofyn i Fi’ a defnyddiwyd ei arbenigedd cerddorol hefyd ar gyfer paratoi’r traciau cefndir i’r sioe yn ei stiwdio Sbensh ym Mro Ffestiniog ..
Mae’r plant ysgol gynradd yn gweithio ar y sioe ers mis Ionawr gan deithio’n wythnosol o ysgolion ledled Meirionnydd i ymarfer yn Ysgol y Gader, Dolgellau. Mae'r tiwtoriaid wrth eu bodd â’r ymateb.
Yn ôl Y Cyfarwyddwr Artistig, Iola Ynyr, o Gwmni Frân Wen sy’n cydweithio ag arbenigwyr lleol ar y sioe: “Mae sgript afaelgar Haf Llywelyn a’r amrywiaeth yn arddulliau’r caneuon yn rhoi cyfle i’r cast serennu. Mae rhywun yn cael gwefr yn barod wrth i’r cynhyrchiad ddechrau dod at ei gilydd ac mae’r pleser mae’r plant yn ei gael wrth ymarfer yn heintus. Yn goron ar y cwbl, ceir anthem gofiadwy a gyfansoddwyd gan Gai Toms a’r cast i gloi ‘Paid â gofyn i fi’.
Un o'r tîm artistig sy'n teimlo’n gartrefol yn gweithio gyda'r bobl ifanc yw’r Ymarferydd Drama, Siwan Llynor o’r Bala. Mae hi bellach yn briod ac yn byw gyda’i theulu ifanc yn Ynys Môn ond mae hi’n falch iawn o fod nôl 'adref' yn gweithio gyda phobl ifanc sir Feirionnydd fel Cyfarwyddwr Cysylltiol y Sioe.
“Mae'n deimlad braf iawn bod nôl adref ym Mhenllyn, yn gweithio gyda phlant, rhai ohonyn nhw’n blant i fy ffrindiau! Mae'n fy atgoffa o’r cyfleoedd y ces i yn ystod fy mhlentyndod gan yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Dwi’n mawr obeithio y bydd y plant yn cofio hyn fel profiad cadarnhaol, un lle maen nhw wedi ffurfio cyfeillgarwch ac un y byddan nhw’n hel atgofion melys amdano ymhen blynyddoedd i ddod.”
Mae dau o'r prif rannau yn cael eu chwarae gan Rhys Llewelyn o Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn ac Elan Cain Davies o Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd. Mae'r ddau’n edrych ymlaen at y perfformiad yn y pafiliwn.
Mae'r sioe yn dilyn hanes arwyr di-glod, gydag arweinyddiaeth yn dod gan ddau unigolyn dewr annhebygol. Mae arwr amlwg y stori, yr arth o ddyn sydd i fod yn ddewr a chryf gyda byddin o farchogion ffyrnig yn aros am yr alwad i achub y dydd, yn cysgu ym mryniau Meirionnydd. Pwy yw’r arwr sy'n helpu'r plant i ymladd dyfodol eu cae chwarae? Weithiau nid ydym yn sylweddoli pwy ydi’r ‘arwyr’ go iawn, y rhai sydd byth yn troi eu cefnau ac yn dweud - 'Paid â Gofyn i Fi!’
Mae'r sioe a’i stori hudolus yn llawn dychymyg a chreadigrwydd ac mai’n gorffen gyda negeseuon a themâu cryf sy’n berthnasol i bawb heddiw.
Mae agwedd greadigol arall i’r sioe oherwydd arbenigedd lleol, sef gwaith pypedu. Yr artist Mari Elain Gwent sy’n wreiddiol o Lanuwchllyn yw dylunydd gwisgoedd a set ‘Paid â Gofyn i Fi’.
"Mae hi’n wych cael gweithio efo Mari fel artist cymunedol a dylunydd i’r sioe. Rydyn ni’n gallu dwyn ar ei harbenigedd i gyflwyno pethau newydd fel pypedau. Mae hi’n creu cymeriad yr aderyn prin ‘Cynffon Binc y Boncen’ fel pyped yn ogystal â'r anifeiliaid eraill fel y pili pala, siencyn y gwair a'r creaduriaid eraill. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, dwi wedi bod yn ymweld â grwpiau llai o blant yn eu hysgolion i greu’r agwedd yma o’r cynhyrchiad. Mae'r cyfan yn dod at ei gilydd yn dwt. Mae gwaith Mari yn arbennig a dwi’n edrych mlaen yn fawr i weld yr adran bypedau yn cael ei osod yn y sioe.”
Cai Tomos, enw arall adnabyddus sy’n wreiddiol o Ddolgellau a Sarah Mumford sydd wedi bod yn gweithio ar goreograffi’r sioe.
Mae’r criw yn ddiolchgar iawn i’r athrawon a’r gwirfoddolwyr lleol am eu cefnogaeth gydol y broses, “maen nhw wedi bod yn gwbl amhrisiadwy” meddai Siwan Llynor.
Am docynnau i’r sioe neu ddigwyddiadau eraill yr Eisteddfod, ewch i www.urdd.org/eisteddfod/tocynnau neu ffoniwch y llinell docynnau, 0845 257 1639.
Ben Lewis Roberts, Ysgol Bro Tegid yn ymarfer fel y cymeriad, Brenin Arth gyda chriw o’r sioe