Mwy o Newyddion
15 Mai 2014
Ffigyrau gwrando Radio Cymru i fyny
Mae’r gwrando ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales i fyny yn ôl y ffigyrau fwyaf diweddar a gyhoeddir gan RAJAR (Radio Joint Audience Research) heddiw.
Mae Radio Cymru wedi gweld cynnydd o 3,000 o wrandawyr, o’i gymharu gyda’r chwarter diwethaf i gyrraedd 143,000 o wrandawyr bob wythnos, sydd 24,000 yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn yn ôl.
Mae Radio Wales hefyd yn gweld cynnydd o 6,000 yn y gwrandawyr dros gyfnod o dri mis a 10,000 yn fwy ar y flwyddyn; erbyn hyn mae Radio Wales yn cyrraedd 472,000 bob wythnos.