Mwy o Newyddion
Gall defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus arbed dros £160 y flwyddyn i chi!
Yn ôl gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos yma, arbedodd defnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru tua £160 y flwyddyn ar gyfartaledd trwy ddefnyddio gwasanaethau eu llyfrgell gyhoeddus leol. Ac, yn syfrdanol, roedd un o bob pump o ymatebwyr yn arbed dros £300 y flwyddyn trwy ddefnyddio’r gwasanaeth llyfrgell.
Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil gan Archives, Libraries and Museums Alliance UK (ALMA-UK) ac mae’n seiliedig ar ymatebion i arolwg gan dros 4,000 o ddefnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Roedd yr arolwg yn rhan o astudiaeth oedd yn edrych ar werth economaidd llyfrgelloedd cyhoeddus ac fe’i cynhaliwyd gan ERS Research & Consultancy ar ran ALMA-UK.
Rhoes defnyddwyr llyfrgelloedd Cymru a holwyd werth amcangyfrifedig o £26.38 ar gyfartaledd ar bob ymweliad â’r llyfrgell. Seilir y gwerth hwn, sy’n cyfateb i werth ariannol, ar yr hyn a gostiodd iddynt deithio i’r llyfrgell (o ran amser ac arian), faint o amser a dreuliwyd ganddynt yn y llyfrgell a hefyd faint a wariwyd ganddynt yn yr ardal.
Mae’r ffigwr hwn ar gyfartaledd dros 7.5 gwaith yn fwy na chost darparu’r gwasanaeth llyfrgell ac mae’n datgelu sut mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn rhoi gwerth economaidd am arian.
Edrychodd yr astudiaeth hefyd ar yr hyn yr oedd defnyddwyr yn gwario arno yn yr ardal wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau’r llyfrgell ac ar yr hyn y gall y budd economaidd ychwanegol esgor arno. Yn ôl y gwaith ymchwil, amcangyfrifwyd bod llyfrgelloedd cyhoeddus wedi cefnogi 596 o swyddi ychwanegol yng Nghymru yn 2012-13, yn ogystal â’r rhai hynny a gyflogwyd yn uniongyrchol gan y gwasanaeth.
Pan ofynnwyd pa wasanaethau llyfrgell yr oeddynt yn eu defnyddio, dywedodd 50% o’r ymatebwyr o Gymru eu bod yn defnyddio’r mynediad at y Rhyngrwyd oedd yn rhad ac am ddim ac roedd bron i 90% yn defnyddio’r llyfrau.
Wrth gyhoeddi canlyniadau Cymru yng nghynhadledd llyfrgelloedd Cymru heddiw, dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: “Mae’r gwaith ymchwil hwn yn tanlinellu’r budd ariannol sydd i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus ac yn dangos y cyfraniad pwysig y mae llyfrgelloedd yn ei wneud i’r economi lleol.
Gyda mwy o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu ar lein, mae’n bwysig bod pobl yn sylweddoli y gallant ddefnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus i gael mynediad at y Rhyngrwyd am ddim a chael cymorth i ganfod gwybodaeth.”
Law yn llaw â’r adroddiad ar yr arolwg, mae ALMA-UK wedi cynhyrchu arweinlyfr fel bod modd i wasanaethau llyfrgell unigol fesur eu heffaith eu hunain ar yr economi.
Mae’r adroddiad ar yr arolwg ar gael ar wefan ALMA-UK: http://almauk.org/