Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mai 2014

Iestyn Evans – cario’r baton 50 mlynedd ar ôl ei dadcu

Erbyn hyn, daeth tro Ceredigion i dderbyn Baton y Frenhines yn rhan o’r daith gyfnewid yn arwain at Gemau’r Gymanwlad – a gynhelir eleni yn Glasgow.

Rhwng 12 a 12.30pm ar ddydd Mercher, 28 Mai, bydd Baton y Frenhines yn dod i Aberteifi fel rhan o’r daith gyfnewid. Bydd yn cychwyn yng Nghei’r Tywysog Charles ac yn gorffen yn Theatr Mwldan, ac yn cael ei gludo ar y daith gan bum person lleol.

Mae Iestyn Evans, fydd yn cario’r baton am ran o’r daith yn Aberteifi, yn esbonio pam ei fod yn achlysur hynod iawn iddo ef:

“Cafodd fy nhadcu y cyfle hefyd i gario’r baton ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Nhaith Gyfnewid gyntaf un Baton y Frenhines, yn ôl yn 1958. Dyna pryd yr oedd Caerdydd yn cynnal y Gemau – ac mae’n deimlad arbennig iawn imi ei gario a dilyn ôl ei droed. Byddaf yn teimlo’n falch iawn yn ei gario ag yntau’n gwylio.”

Dywed Denzil Evans, tadcu Iestyn, sy’n byw yn Aberteifi, fod y profiad wedi dod ag atgofion yn ôl iddo:

“Pan gymerais i ran, hwnnw oedd y tro cyntaf i’r daith gyfnewid ddigwydd ac felly roedd yn ddigwyddiad hanesyddol. Rwyf yn falch y tro yma y gallaf ymlacio a gadael i Iestyn wneud ei ran, ond bydd y profiad yn llawn cystal, ac yn un fydd yn aros gydag ef am flynyddoedd i ddod.”

Dechreuodd y baton ei daith hir drwy’r Gymanwlad ar 9 Hydref 2013. Gan ei fod erbyn hyn wedi cwbhlau ei daith ryngwladol ar ôl 248 diwrnod, mae’r baton yn cychwyn ar ei daith ar hyd gwledydd Prydain am 72 diwrnod olaf y daith fydd yn arwain at Seremoni Agoriadol Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn yr haf.

Yn y Seremoni Agoriadol, bydd Ei Mawrhydi y Frenhines yn cyhoeddi ei neges i’r Gymanwlad, a roddodd yn y baton ar y diwrnod y cychwynnodd ar ei daith epig o Balas Buckingham. 

Mae Ann Eleri Jones o Gyngor Ceredigion hefyd yn falch i groesawu’r baton i’r sir: “Gan ei fod yn digwydd ynghanol gwyliau hanner tymor y Sulgwyn, rydym yn disgwyl torfeydd da ar gyfer Baton y Frenhines wrth iddo deithio trwy Aberteifi.

"Bydd gennym hefyd un ar bymtheg o Lysgenhadon Ifanc Efydd o Aberteifi yn tywys y pump fydd yn cario’r baton, rhywbeth sy’n golygu fod y gymuned yn rhan lawn o’r digwyddiad. Achlysur braf i’w wylio, os ydych o Geredigion, neu ar wyliau dros yr hanner tymor.”

 

Rhannu |