Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mai 2014

Ymateb i adroddiad Cymraeg ail iaith

Mae’n rhaid i’r system gyfredol o addysgu a dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg  newid. Dyna oedd ymateb y Prif Weinidog, Carwyn Jones a Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau wrth drafod adroddiad allweddol.
 
Gofynnwyd i’r Grŵp Adolygu Cymraeg ail iaith, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies, ystyried Cymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 and 4  a darparu argymhellion ar ystod o faterion, gan gynnwys:
 * sut i ddarparu profiad dysgu positif i ddysgwyr Cymraeg ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg;

* a yw cymwysterau yn annog neu’n rhwystro datblygiad sgiliau iaith Gymraeg trosglwyddadwy;

* y ffordd orau o ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr fel eu bod nhw’n gallu trosglwyddo eu sgiliau a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, y gymuned ac o fewn y teulu.

Dywedodd y Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau y bydd nifer o gamau pwysig yn cael eu cymryd i ymateb i argymhellion Un iaith i bawb gan gynnwys:

* hwyluso a hybu Cymraeg fel pwnc a sgil yn y gweithle

* parhau i arianu gweithgareddau hyfforddi ar gyfer athrawon Cymraeg ail iaith drwy’r Grant Cymraeg mewn Addysg a’r Cynllun Sabothol

* cydweithio â Sefydliadau Dyfarnu a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod TGAU Cymraeg ail iaith, Safon UG a Lefel A yn gymwysterau priodol

* cael gwared â’r cwrs byr TGAU Cymraeg ail iaith

* monitro argaeledd Safon UG a Lefel A Cymraeg ail iaith a faint sy’n dilyn y cyrsiau hynny

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd bod yr Athro Graham Donaldson yn mynd i gynnal adolygiad annibynnol o’r trefniadau cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru. Bydd argymhellion y Grŵp Adolygu sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag asesu a’r cwricwlwm yn cael eu hystyried gan yr Athro Donaldson yn ystod ei adolygiad annibynnol.
 
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: “Hoffwn ddiolch i’r Athro Sioned Davies ac i aelodau’r Grŵp Adolygu am eu gwaith yn creu’r adolygiad  cynhwysfawr hwn a’i argymhellion.

“Mae’n hollol glir o’r adroddiad bod rhaid i’r system gyfredol o ddysgu ac addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg newid.

“Mae’r Gymraeg yn rhan unigryw a gwerthfawr o’n hunaniaeth a’n diwylliant, dyw hi ond yn deg bod holl ddisgyblion Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg – yn cael cefnogaeth i siarad y Gymraeg yn hyderus.

“Mae’n hymateb yn nodi camau i fynd i’r afael â hyn. Er hynny, gan fod yr Athro Graham Donaldson wrthi’n gwneud ei adolygiad byddai’n well dal arni am ychydig ar ein ymateb ynghylch y cwricwlwm er mwyn i’r rhain gael eu hystyried fel rhan o adolygiad ehangach o addysg.

“Rydym eisiau bod yn hyderus y bydd unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud i addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn adlewyrchu’n ymrwymiad cadarn i wella safonau Cymraeg ail iaith.”

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau: “Yn y gorffennol rydym wedi gweld safonau a chyrhaeddiad isel mewn Cymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Mae hyn yn gwbl annerbyniol a mae’n rhaid iddo newid.

“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at  nifer o faterion o safbwynt y dull cyfredol o addysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae hefyd yn edrych ar themâu yr ydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hwy. Heddiw, rydym wedi llunio’n hymateb i lawer o’r prif argymhellion. Bydd yr adroddiad yn ffurfio rhan bwysig o’r dystiolaeth sydd gan yr Athro Donaldson wrth iddo fwrw ati gyda’i adolygiad yntau.

“Rydym am sicrhau bod unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gennym yn arwain at godi safonau ac yn arwain at alluogi pobl ifanc i fod yn rhugl yn y Gymraeg yn y dyfodol.”

Llun: Huw Lewis

Rhannu |