Mwy o Newyddion
Pwyso am weithredu Ewropeaidd ar gontractau dim-oriau gorfodol
Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi addo gorfodi gweithredu ledled Ewrop ar gontractau dim-oriau gorfodol, gan ddweud bod yn rhaid i Ewrop gymdeithasol gymryd camau i wneud iawn am fethiannau Llywodraethau’r DG a Chymru.
Dengys ffigyrau a ryddhawyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol fod teirgwaith cymaint o weithwyr ar gontractau dim-oriau ag y tybiwyd yn wreiddiol, ac mai cyflogwyr mawr sydd fwyaf euog yn aml o ddefnyddio’r arfer hwn.
Methodd Llywodraeth y DG â gwahardd contractau dim-oriau gorfodol tra bod Llywodraeth Cymru dair gwaith wedi gwrthod deddfwriaeth a gynigiwyd gan Blaid Cymru i’w gwneud yn anghyfreithlon i weithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd, a gweithwyr amaethyddol. Tybir fod hyd at 60% o weithwyr gofal cartref yn cael eu cyflogi ar gontractau dim-oriau.
Dywedodd ASE Plaid Cymru Jill Evans fod methiant llywodraethau’r DG a Chymru i amddiffyn hawliau gweithwyr fod angen gwaharddiad ledled Ewrop.
Meddai: “Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd yn rhoi anghenion pobl Cymru gyntaf.
“Mae’n gywilydd fod cymaint o bobl yn cael eu cadw ar gontractau dim-oriau gorfodol sy’n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn barod i waith, er na fydd gan y cwmni sy’n eu talu unrhyw waith iddynt yr wythnos honno.
“Economeg y tloty yw hyn – arhoswch nes eich bod yn cael eich dewis i weithio.
“Gwaetha’r modd, mae llywodraethau’r DG a Chymru wedi methu â thrin hyn mewn unrhyw ffordd o gwbl.
“Yn waeth byth, mae Llywodraeth Cymru dair gwaith wedi gwrthod deddfwriaeth a gynigiwyd gan Blaid Cymru i’w gwneud yn anghyfreithlon i weithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd, ac yn y sector amaethyddol.
“Os na allwn ddibynnu ar ein llywodraeth genedlaethol i amddiffyn gweithwyr Cymru, yna rhaid i ni weithredu ar lefel Ewropeaidd i wneud yn siŵr fod gan ein gweithwyr yr un cefnogaeth mewn cyflogaeth â gweithwyr mewn mannau eraill yn Ewrop.
“Bydd Plaid Cymru yn lansio ymgyrch newydd i sicrhau fod y comisiynydd cyflogaeth newydd yn Ewrop yn gweithredu yn erbyn y contractau dim-oriau gorfodol hyn, a gwledydd eraill y mae eu llywodraethau yn caniatau contractau annheg tebyg, fel yr Eidal.
“Does dim rheswm pam y dylai ein gweithwyr Cymreig gael eu hecsploetio gan gwmniau amlwladol mawr, a bydd Plaid Cymru yn sefyll dros hawliau ein gweithwyr Cymreig i roi terfyn ar hyn.”