Mwy o Newyddion
Angen rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch adrannau achosion brys
Dylai Llywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd lleol rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch adrannau achosion brys yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mynegodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bryderon hefyd am anghysondebau yn y ffordd y cesglir data sy’n ymwneud â pherfformiad gan y GIG, ac argymhellodd y dylid sicrhau bod y wybodaeth a gesglir ynghylch darparu gwasanaethau a phrofiadau cleifion yn glir.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad yn dilyn adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a ganfu fod gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn gwaethygu mewn rhai ardaloedd – yn enwedig o ran amseroedd aros cleifion.
Mae’r Pwyllgor yn nodi iddo glywed am rai gwelliannau ers cyhoeddi’r adroddiad hwnnw.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, "Mae’r pwysau sy’n wynebu’r broses o gyflenwi gwasanaethau gofal heb ei drefnu yng Nghymru yn gymhleth.
"Er bod y rhai sy’n gweithio o fewn GIG Cymru wedi gwneud eu gorau i sbarduno gwelliannau, ni welwyd eto’r newid ymagwedd llwyr o ran perfformiad sydd ei angen ar bobl Cymru.
"Casgliad y Pwyllgor yw bod angen atebion radical er mwyn mynd i’r afael â’r heriau y mae ein gwasanaethau iechyd yn eu hwynebu. Rydym hefyd am weld terfyn i’r ansicrwydd ynghylch yr hyn a ddarperir o ran adrannau achosion iechyd brys – yn enwedig o ystyried yr her a wynebir gan ein hysbytai o ran recriwtio."
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 18 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:
- Bod angen rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch dyfodol gwasanaethau adrannau achosion brys ledled Cymru, ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i ddod â’r ansicrwydd hwn i ben er mwyn cyflawni modelau staffio meddygol diogel, sy’n gynaliadwy’n glinigol, mewn adrannau achosion brys, a’i bod yn hybu recriwtio a chadw staff angenrheidiol.
- Bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o waith i hyrwyddo’r dewisiadau sydd ar gael i gleifion, a’r modd y gallai’r gwasanaethau hynny gael eu darparu. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y gellir cael gofal sylfaenol gan weithiwr iechyd proffesiynol heblaw meddyg teulu, ac y gallai hynny ddigwydd dros y ffôn; a
- Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddatblygu cyfres ehangach o fesurau perfformiad ar gyfer gofal heb ei drefnu er mwyn mesur a chofnodi ansawdd gofal a phrofiadau cleifion mewn ffordd sy’n golygu y gellir gwneud cymariaethau yn y DU a thu hwnt.