Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ebrill 2014

Gostyngiad i ddysgwyr Gwynedd yn y Nant

Mae cyfle gwych i’r rhai sy’n byw, gweithio neu wirfoddoli yng Ngwynedd i fynychu cwrs 5 niwrnod ym mhentref hudolus Nant Gwrtheyrn, a hynny am £125. O fis Chwefror tan fis Rhagfyr mae’r Ganolfan Iaith Genedlaethol yn cynnig cyrsiau ar gyfer dechreuwyr pur hyd at siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf- a phawb yn gadael y ganolfan ar ddydd Gwener yn llawer mwy hyderus yn yr iaith. 

Yn wythnosol, mae dysgwyr Sir Gwynedd, sydd eisoes yn ymfalchïo fod y cynnig hwn ar gael, yn teithio’n ddyddiol - o ardaloedd megis Bangor a Dolgellau hyd yn oed ac, wrth gwrs, Penrhyn Llŷn.

Mae pob cwrs 5 niwrnod yn cynnwys 37 awr o hyfforddiant yn yr iaith, cinio’n ddyddiol, gweithgareddau nos a swper am ddim ar y nosweithiau hynny. Cynhwysir hefyd taith allan i’r gymuned leol i ymarfer Cymraeg ac yn ystod yr wythnos, mae digon o weithgareddau hwyliog a bywiog wedi eu haddasu ar gyfer pob math o ddysgwyr.

Dywed Pegi Talfryn, Rheolwr Addysg y Nant, “Mae hwn yn gynnig sy’n rhy dda i’w golli i unrhyw un sydd yn gallu teithio yma’n ddyddiol. Fel arfer, mae ein dysgwyr dyddiol yn rhieni sydd angen mynd adref gyda’r nos neu’n weithwyr yn y sir sydd eisiau magu hyder yn yr iaith yn gyflym i’w ddefnyddio yn y gwaith. Mae’n bwysig bod cynigion fel hyn ar gael i bobl yr ardal ac ein bod yma i fod o gymorth iddynt ddatblygu eu sgiliau. Dyma yw ein cyfraniad i’r gymuned.”

Os am wella eich Cymraeg o fewn 5 niwrnod ac os am fargen, cysylltwch â Miriam Grant, Cydlynydd Cyrsiau Nant Gwrtheyrn ar 01758 750 334 neu miriam@nantgwrtheyrn.org

Rhannu |