Mwy o Newyddion
Anne Watts yn dychwelyd i Gymru i rannu ei stori
Cafodd Anne Watts ei geni yng nghanol bomiau’r blitz yn Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd; llwyddodd ei mam a hithau adael Lerpwl a dod o hyd i heddwch yn Mhentrefelin. Dyna ble cafodd Anne ei magu cyn gadael y wlad yn gyfan gwbl yn ddeunaw oed a theithio i Vietnam.
Babi’r blitz sydd wedi gweld sawl rhyfel yn ystod ei bywyd bellach yw Anne Watts;
“Roedd pawb yn dweud mae’r Ail Ryfel Byd fyddai’r rhyfel olaf y bydden ni’n ei brofi ond nawr pan fydd pobl yn sôn am ryfel rwy’n gofyn pa un, mae cymaint ohonyn nhw wedi bod ac yn digwydd heddiw,” meddai Anne sydd bellach yn byw ar gyrion Llundain lle y mae hi’n gofalu am wraig 99 oed.
Pan oedd Anne yn blentyn ifanc roedd ei mam yn nyrs ac roedd ei thad yn y llynges fasnachol.
Meddai: “Un o fy atgofion cynharaf ydi dad yn dychwelyd o’r môr ac yn gwneud i mi eistedd ar stôl fechan o flaen map y byd oedd gyda ni yn hongian ar y wal yn ein lolfa yn y tŷ.
"Roedd dad yn gwneud imi bwyntio at y map at enwau llefydd fatha Ynysoedd Gilbert ac Ellice ac ati.
"Roeddwn i’n gwybod ble roedd y llefydd yma i gyd yn chwech oed. Roeddwn i mor mor lwcus o gael tad fel hyn, fe wnaeth i mi edrych ar y byd fel cartref crwn i mi.
"Roeddwn i yn gwybod ble roedd Pentrefelin, a’i leoliad yng ngweddill y byd. Doedd y byd ddim yn lle diethr wedyn.”
Mae gyrfa faith Anne Watts wedi golygu gofalu am blant a phobl pan oeddent yn fwyaf agored i niwed. Mae gofalu a meddwl am eraill wedi bod yn rhan o fywyd teuluol Anne Watts ers yn ferch ifanc.
“Roeddwn i’n cael darn chwe cheiniog bob wythnos fel pres poced ac rwy’n cofio mod i’n rhoi ceiniog yn gyson tuag at y ‘plant bach yn Affrica’, roedd yn arferiad yn ein teulu ni i wneud hyn. Dwi’n cofio meddwl wedyn i ble roedd yr arian yna yn mynd a sut yr oedd e’n cael ei ddefnyddio.”
Ar ôl hyfforddi fel nyrs ac fel bydwraig yn Ysbyty Bydwragedd Dewi Sant ym Mangor fe welodd Anne hysbyseb yn chwilio am ddwy nyrs i fynd i ganolfan adsefydlu yn Vietnam.
“Roedd y gwaith yma yn Vietnam wedi ei ariannu gan Achub y Plant a dyna fi’n cael yr ateb i fy nghwestiwn, i fama roedd yr arian yn mynd. I ffwrdd a fi.
“All dim byd eich paratoi chi am yr hyn sydd yn digwydd mewn rhyfel ac yn arbennig i’r plant. Dyma ble roedd Achub y Plant yn chwarae rhan allweddol i fi ac yma hefyd y dysgais i gymaint o wersi bywyd."
Ers hynny mae Anne wedi teithio’r byd, mae hi wedi ysgrifennu dau hunangofiant ‘Always the Children’ yn 2010 a ‘A Nurse Abroad’ yn 2012. Mae hi bellach ar ganol ysgrifennu’r drydedd gyfrol am ei chyfnod yn y Gorllewin Canol yng ngwledydd yr Aifft, Libanus a Saudi Arabia.
“Mae yna un llinyn sydd yn dilyn trwy’r llefydd hyn i gyd ar draws y byd, dyw’r llinyn hwnnw byth yn newid. Y caredigrwydd mae pobl yn ei ddangos ydi hynny, cwrteisi cyffredinol y bobl gyffredin boed hi’n wraig yn gwisgo gorchudd yn Saudi Arabia neu yn Esgimo neu yn ddyn tlawd yn stryffaglu byw ar strydoedd Cairo. Mae’r rhai sydd heb ddim yn fodlon rhannu popeth gyda chi, dyna rwy wedi ei weld wastad.”
Un o’r digwyddiadau mwyaf emosiynol na fydd byth yn gadael Anne yw ei hatgofion yn gweithio yng nghymuned gloddio yr Yukon yn Columbia Brydeinig.
“Roeddwn i yn gweithio am y tro cyntaf mewn amgylchedd gloddio, a finnau yn ferch o Gymru. Ond nawr, a finnau yn yr Yukon, fe ddigwyddodd cyflafan Aberfan.
"Doedd dim newyddion arlein a thechnoleg fel sydd heddiw felly fe ddaethon ni i wybod am y drychineb yn raddol trwy’r radio, ac fe drawodd y digwyddiad hwn bawb oedd yn y gymuned gloddio yn yr Yukon.
"Fe dynnodd y cowbois eu hetiau ac roedd y menywod yn wylo o waelod eu bod. Roedd e’n un o’r digwyddiadau mwyaf emosiynol i mi ei brofi erioed, roedd yna ysbryd o berthyn ymhlith y glowyr rhwng yr Yukon a Chymru ac fe godon nhw filoedd o ddoleri a’u gyrru i’r gymuned yn Aberfan.”
Mae Anne Watts wedi gweithio ar hyd ei bywyd yn gofalu am blant a phobl ac mae hi bellach yn gofalu am yr henoed.
“Plant a babanod yw dechrau’r siwrne pob amser, mae babanod a mamau iach yn gwneud cymunedau iach. Erbyn heddiw rwy’n gofalu am yr henoed ac yn ceisio hwyluso bywyd unigolion sydd am aros yn eu cartrefi cyhyd ag y gallan nhw. Mae’n freuddwyd gen i ddod yn ôl adre i fyw ac i ofalu yng Nghymru rhyw ddydd.”
Mae Anne Watts yn siarad yn y Glancynon Inn yn Hirwaun, Aberdar am 7 o’r gloch yr hwyr ar Fai y 1af – tocynnau ar gael ar 0741358422
Lluniau: Anne Watts heddiw ac yn Kontum yn ucheldiroedd Fietnam, yn ymyl y ffin â Cambodia yn 1968