Mwy o Newyddion
Digonedd o amrywiaeth gyda'r nos yn Eisteddfod Sir Gâr
Digonedd o amrywiaeth ac adloniant o bob math sy’n ein haros gyda’r nos yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr o 1-9 Awst eleni. Ac wrth i’r tocynnau fynd ar werth yfory, y Trefnydd, Elen Elis, sy’n amlinellu’r arlwy fydd ar gael yn ei Phrifwyl gyntaf.
Meddai, “Rwy’n falch iawn o’r rhaglen gyda’r nos eleni, nid yn unig yn y Pafiliwn, ond hefyd ar Lwyfan y Maes, ac o amgylch y Maes yn ystod yr wythnos. Rwy’n credu y bydd yr amrywiaeth yn apelio at nifer fawr o ymwelwyr hen a newydd, ac rwy’n sicr bod stamp Sir Gâr i’w weld yn glir, yn enwedig yn ein rhaglen gyngherddau yn y Pafiliwn.
“Yn draddodiadol, doniau lleol sy’n agor yr wythnos, ac eleni cawn fwynhau Gala Agoriadol, gydag ieuenctid Sir Gâr yn cyflwyno caneuon o sioeau cerdd poblogaidd gan gynnwys Grav, Nia Ben Aur, Pum Diwrnod o Ryddid ac Er Mwyn Yfory. Nos Sadwrn, Wynne Evans, John-Owen Jones, Shan Cothi a Kizzy Crawford sy’n ein harwain ar daith gofiadwy drwy ganrif o ganeuon enwocaf ein gwlad, yn y cyngerdd ‘100euon’, gyda Cherddorfa John Quirk, a chorau Cywair a Bois Ceredigion, gydag ambell gân yn cael ei pherfformio mewn arddull eithaf gwahanol i’r arfer.
“Yn unol â’r arfer, y Gymanfa sydd yn y Pafiliwn nos Sul, gyda chyfle i bawb ymuno yn y canu cynulleidfaol. Byddwn yn newid cywair yn llwyr nos Lun, pan fydd y dyfarnwr rygbi byd-enwog, Nigel Owens, yn gwneud ei orau i gadw trefn ar griw arbennig iawn yn Noson Lawen Sir Gâr. Yn dilyn llwyddiant y Noson Lawen y llynedd, tro perfformwyr sy’n gysylltiedig ag ardal yr Eisteddfod fydd hi i ddiddanu’r gynulleidfa eleni, gyda Thri Tenor Cymru, Huw Chiswell, Gillian Elisa, Gwenda a Geinor, Côr y Wiber, Côr Llanddarog a’r Cylch, Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin, Dawnswyr Talog a Siren Sisters yn llenwi’r llwyfan mewn noson hwyliog i’r teulu cyfan.
“Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc yr ardal yn cael eu gollwng yn rhydd ar lwyfan y Pafiliwn, nos Fawrth, felly os ydych chi’n chwilio am noson llawn hwyl a chwerthin, dyma’r cyngerdd i chi, wrth i ni ddathlu 70 mlynedd o’r Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc yn Sir Gâr. Ac yna, nos Iau, Fflur Wyn, Trystan Llyr Griffiths, Gwion Tomos, a Cherddorfa Siambr Cymru, dan arweiniad Grant Llewellyn, fydd yn perfformio Requiem gan Faure a Messe Solennelle gan Gounod gyda Chôr Eisteddfod Sir Gâr.
“Wrth gwrs, byddwn yn parhau gyda’r drefn o gynnal nosweithiau o gystadlu yn y Pafiliwn nos Fercher a nos Wener, gyda’r gweithgareddau’n cychwyn am 18.30. Bydd y cyngherddau ar y nosweithiau eraill i gyd yn cychwyn am 20.00, a rhwng popeth, rydw i’n hyderus y bydd pawb yn teimlo bod rhywbeth yn yr arlwy’n apelio atyn nhw eleni.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llwyfan y Maes wedi dod yn fwy fwy poblogaidd, ac roedd hyn yn amlwg y llynedd, gyda’r miloedd o bobl a heidiodd i weld Gig Olaf Edward H Dafis. Er nad oes ‘na gig olaf gan neb eleni, gobeithio, mae digon o berfformiadau gwych ac mae’r nosweithiau’n sicr o apelio at Eisteddfodwyr o bob oed. Nos Wener, bydd Bryn Fôn yn perfformio mewn gig go arbennig wrth i’r canwr ddathlu’i ben blwydd yn drigain oed, felly fe fydd digon o reswm i ddathlu a mwynhau. Ac i gloi’r wythnos ar y Llwyfan, beth well na dathliad arall, wrth i Mynediad am Ddim, grŵp a gychwynnodd ddeugain mlynedd yn ôl yn 1974, ddod â phopeth i ben, gyda chaneuon sydd yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry.”
Yn ogystal â’r Llwyfan a’r Pafiliwn, bydd rhaglen lawn o gigs ym Maes B, a gynhelir unwaith eto eleni ar y Maes peByll. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi’n fuan. Byddwn hefyd yn cyhoeddi manylion nifer o weithgareddau nos eraill a gynhelir mewn lleoliadau amrywiol ar y Maes, wrth i ni ymateb i’r galw gan ein hymwelwyr am ddigwyddiadau o bob math gyda’r hwyr.
Gellir prynu tocynnau nos i’r Eisteddfod ar-lein o wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.org.uk neu gwefan Theatrau Sir Gâr, www.theatrausirgar.co.uk. Hefyd, gellir eu prynu drwy’r linell docynnau, 0845 4090 800, ac am y tro cyntaf bydd tocynnau hefyd ar gael i’w prynu o Theatr y Ffwrnes, Llanelli, Theatr y Lyric, Caerfyrddin a Theatr y Miners, Rhydaman, mewn partneriaeth arbennig rhwng yr Eisteddfod a’r Theatrau. Bydd manylion y prisiau i gyd ar gael drwy gysylltu â’r uchod.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar y Meysydd Gŵyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli o 1-9 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.
Llun: John-Owen Jones