Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ebrill 2014

Cyfleodd gwych i rai o enillwyr yr Eisteddfod

Bydd rhai o enillwyr llwyfan blaenaf yr Eisteddfod yn Sir Gâr eleni’n derbyn cyfleoedd ychwanegol fel rhan o’u gwobrau, wrth i ddiddordeb yn enillwyr y Brifwyl ddatblygu mewn rhannau eraill o’r byd.

Bydd enillydd Gwobr Goffa David Ellis, y Rhuban Glas, yn derbyn gwahoddiad arbennig i berfformio ym Melbourne, Awstralia, fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi Eglwys Gymraeg Melbourne, gyda’r eglwys yn darparu llety ac yn talu costau teithio.  Mae hyn yn dilyn perfformiad gan enillydd y Rhuban Glas y llynedd, Eleri Edwards, yn y Gymanfa Ganu yn gynharach eleni.

Yn ogystal, am yr ail flwyddyn, bydd enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, Ysgoloriaeth William Park-Jones ac Ysgoloriaeth Côr Meibion Cymry Llundain, y Rhuban Glas i’r rheini dan 25 oed, yn cael cyfle i berfformio yn America, diolch i wobr gan Sefydliad Cymru-America.

Bydd gwobr ychwanegol hefyd, Ysgoloriaeth Goffa Eirwen Griffiths Jones, Brynaman,  i‘r unawdydd benywaidd a’r unawdydd gwrywaidd mwyaf addawol sy’n cystadlu yng nghystadlaethau’r unawdau ar gyfer y rheini rhwng 19 a 25 oed gyda’r ddau yn derbyn £2,500 yr un i’w galluogi i dderbyn hyfforddiant pellach mewn ysgol neu goleg cerdd cydnabyddedig neu gan athro llais cydnabyddedig.

Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, “Rwy’n hynod falch bod modd i ni gyhoeddi’r manylion hyn, yn enwedig ag wythnos i fynd cyn y dyddiad cau eleni.  Rwy’n gobeithio y bydd y cyfle i ennill gwobrau ychwanegol ac i gael cyfle i ganu mewn gwledydd eraill yn sbarduno nifer fawr o unawdwyr i anfon atom ac i gystadlu yn yr Eisteddfod eleni.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ychwanegol yma, ac mae datblygu’r Eisteddfod ar y llwyfan rhyngwladol yn rhywbeth rwy’n awyddus iawn i ni’i wneud yn y dyfodol, ac mae’n ardderchog ein bod ni’n gallu cychwyn ar y gwaith hwn wrth gyhoeddi cyfleoedd i enillwyr berfformio yn America ac yn Awstralia y flwyddyn nesaf.

“Yn ogystal, mae ysgoloriaethau i gynnig hyfforddiant pellach i unawdwyr ifanc yn sicr o apelio at ein cystadleuwyr.  Mae derbyn ysgoloriaeth fel hyn yn fraint ac yn gyfle heb ei ail i gychwyn ar yrfa fel canwr neu gantores broffesiynol.  Diolch o galon i Eglwys Gymraeg Melbourne, Sefydliad Cymru-America a theulu Eirwen Griffiths Jones, Brynaman, am eu haelioni a’u cefnogaeth i’r Eisteddfod.”

1 Mai yw’r dyddiad cau ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno cystadlu yn un o gystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod eleni, ac mae angen i’r ffurflen gais gyrraedd Swyddfa’r Eisteddfod erbyn y dyddiad hwn.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar y Meysydd Gwyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli o 1-9 Awst eleni.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.org.uk.

 

Rhannu |