Mwy o Newyddion
Yr Urdd yn lansio Ap digwyddiadur Cymraeg cyntaf
YMUNODD Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, â chriw o ieuenctid Urdd Gobaith Cymru yn Ynys Môn i lansio’r Ap Digwyddiadur Cymraeg cyntaf o’i fath i blant a phobl ifanc ddydd Mawrth.
Bydd Ap ‘Fy Ardal’, sydd ar gael am ddim, yn adnodd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am weithgareddau a digwyddiadau cyfrwng Cymraeg o fewn eu hardaloedd.
Mae’n cynnig platfform newydd ar ffonau symudol a theclynnau technoleg sy’n cynnig gwybodaeth ar lawr gwlad i blant a phobl ifanc sy’n awyddus i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Datblygwyd y cynllun, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg.
Trwy ddewis ffilteri megis categori oedran, lleoliad a math o weithgaredd, bydd unigolion yn darganfod gwybodaeth sy’n berthnasol ac o ddiddordeb iddynt a bydd cyfle hefyd i rannu’r wybodaeth gyda’i ffrindiau drwy e-bost a chysylltiadau o fewn rhwydweithiau cymdeithasol e.e. Twitter a Facebook.
Bydd yr Ap newydd yn cynnig nid yn unig fanylion am ddigwyddiadau Urdd Gobaith Cymru ledled Cymru ond hefyd gwybodaeth am ddigwyddiadau addas partneriaid fel S4C, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Mentrau Iaith, Mudiad Meithrin, Twf, Tyfu Merched y Wawr a llawer mwy, i gyd mewn un lle.
Un sydd wedi cael cipolwg ar yr Ap newydd yw Carwyn Jones, 14 oed o Garreglefn, Ynys Môn.
Meddai: “Dwi’n meddwl bod yr Ap newydd yn ddefnyddiol iawn. Dwi’n hoff iawn o’r ffaith bod modd i chi chwilio am ddigwyddiad y mae gennych chi ddiddordeb ynddo fo, nodi’r digwyddiad ar yr Ap a’i fod o wedyn yn ymddangos yn eich calendr chi ac yn eich atgoffa amdano mewn da bryd.
“Ffordd wych o arbed cael fy mam i fy atgoffa am lefydd dwi’n fod i’w cyrraedd erbyn rhyw amser penodol! Mae na wybodaeth ar flaen dy fysedd di, ac mi allai weld defnydd mawr yn cael ei wneud ohono. Mae’n grêt bod na feddalwedd sydd ar gael i ni trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd!”
Mae lansio Ap Fy Ardal yn dilyn llwyddiant ysgubol Ap Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013.
Yn ystod cyfnod yr Eisteddfod llynedd, defnyddiodd dros 13,000 o bobl yr Ap er mwyn gweld map o’r Maes, amserlen, gweithgareddau a chanlyniadau cystadlaethau.
Rhoddodd 95% o’r defnyddwyr sgôr o 4 allan o 5 i’r Ap Eisteddfod. Bydd Ap newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 yn cael ei lansio ym mis Mai.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae heddiw’n garreg filltir bwysig, nid yn unig i’r Urdd, ond i’r iaith Gymraeg ac i bobl ifanc Cymru. Dyma’r adnodd cyntaf o’i fath sy’n cynnig gwybodaeth am ddigwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc ar flaenau eu bysedd.
“Fel mudiad, rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynnig darpariaeth fodern a ddeinamig i’n haelodau ac yn falch o allu cydweithio â sefydliadau eraill i roi’r cyfle i ieuenctid Cymru fanteisio ar weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy fuddsoddi mewn technoleg fodern, gallwn gynnig gwir gyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio eu Cymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a chymunedol.”
Yn ôl y Prif Weinidog: “Mae sicrhau bod pobl ifanc yn gallu defnyddio’r Gymraeg tu fas i gatiau’r ysgol yn bwysig tu hwnt.
“Mae Ap ‘Fy Ardal’ yn adnodd gwerthfawr sy’n galluogi pobl ifanc i ymchwilio’n hawdd i weithgareddau a digwyddiadau cyffrous lleol trwy ddulliau technoleg fodern.
“Mae’n bleser mawr fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r prosiect gyda grant o dros £33,000 o’n cynllun grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg, sydd wedi’i sefydlu i gynyddu’r dechnoleg a chynnwys digidol Gymraeg sydd ar gael.
“Dwi’n mawr obeithio bydd yr Ap yn y pendraw yn cynyddu’r niferoedd o bobl ifanc sy’n mynychu digwyddiadau cyfrwng Cymraeg.”
Mae’r Ap ar gael yn rhad ac am ddim ar yr App Store i’w lawr lwytho ar gyfer yr ipod, iphone neu ipad a Google Play ar gyfer ffonau Android. Cydweithiodd yr Urdd gyda chwmni Moilin a Lime Green Tangerine ar yr Ap.