Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ebrill 2014

Galw am amserlen gweithredu gan Gyngor Sir Gâr

Ar eu ffordd i mewn i gyfarfod o'r cyngor llawn yn Neuadd y Sir fore Mawrth nesaf, bydd cynghorwyr sir Caerfyrddin yn derbyn copi o amserlen y Cyngor ei hun am y mis nesaf gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith.

Esboniodd Swyddog Maes y Gymdeithas yn Nyfed, Bethan Williams: "Wrth roi amserlen y Cyngor i'r Cynghorwyr byddwn yn esbonio na fyddai'r Cyngor ei hun yn gallu cyflawni ei waith heb amserlen bendant.

"Yr un ffordd, bydd strategaeth newydd y Cyngor (sydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod Cyngor llawn) yn ddiwerth heblaw bod amserlen bendant i'w weithredu.

"Mae 115 o ddyddiau nes y byddwn ni'n cynnal Parti Mawr, yn uned y Cyngor Sir ei hun, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli – mwy na digon o amser i'r Cyngor gyhoeddi amserlen i ddangos eu bod o ddifri.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu parti ar Ddydd Gwener 8ed o Awst gan ddisgwyl gallu dathlu fod y Cyngor Sir wedi gosod yr amserlen i fabwysiadu strategaeth newydd a fydd yn rhoi arweiniad i Gymru gyfan.

Ychwanegodd Bethan Williams: “Wrth gwrs, os na bydd amserlen weithredu bendant wedi'i chyhoeddi erbyn yr Eisteddfod bydd rhaid i ni gasglu mai ymarferiad gwag yw hwn."

Yn y neges at y cynghorwyr, mae'r Gymdeithas hefyd yn gofyn i'r gweithgor barhau i weithio ar 3 maes sydd i'w gweld yn ddiffygiol yn y strategaeth:
* Sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg, nid byd addysg Gymraeg yn unig
* Bod ymchwil llawn i effaith stadau tai newydd ar gymunedau lleol a'r Gymraeg
* Gosod targedau o ran sicrhau fod y Cyngor yn gwneud y Gymraeg yn iaith ei weinyddiaeth ei hun
 

Rhannu |