Mwy o Newyddion
Adroddiad Addysg - Ni allant droi eu cefnau ar y condemniad hwn
MAE Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas wedi galw ar i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i feio pawb arall a chynnig gweledigaeth tymor-hir am addysg yng Nghymru wedi i adroddiad rhyngwladol arall weld methiannau yn y system addysg.
Un o brif feirniadaeth’r tîm o’r Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD) oedd: “Bu diwygiadau yn digwydd yn gyflym, ac nid oes iddo weledigaeth tymor-hir, seilwaith digonol i well ysgolion, na strategaeth weithredu glir a rennir gan bob rhanddeiliad.”
Mae’n argymell fod y Llywodraeth yn “defnyddio adolygiadau yn strategol ac yn gynnil.”
Dywedodd Simon Thomas: “Galwodd Llywodraeth Cymru yr OECD i mewn i archwilio’r system addysg.
“Ni allant droi eu cefnau ar y condemniad hwn o ddiffyg cyfeiriad a chwit-chwatrwydd.
“Mae’r prif gyfrwng gwelliant addysgol – y consortia rhanbarthol, y broliwyd amdanynt gymaint, ac a grybwyllwyd gan y llywodraeth byth a beunydd ers bron i ddwy flynedd –yn cael eu condemnio am nad ydynt eto wedi cyflawni’r dasg o ddarparu gwelliant mewn gwasanaethau.
“Yn yr un frawddeg hon, mae’r adroddiad yn crynhoi agwedd annigonol, a diafael Llywodraeth Lafur Cymru.
“Darn arall yw’r adroddiad hwn yn y jig-so pan ddaw’n fater o system addysg Cymru.
“Mae’n cyd-fynd â’r hyn fu Plaid Cymru yn ddweud – fod angen i’r Llywodraeth gyflawni a gweithredu polisïau addysg yn hytrach nac esgor ar un adolygiad ar ôl y llall.
“Yn hytrach na beio consortia, awdurdodau lleol ac ysgolion am fethiannau yn y system addysg, mae angen rhoi arweiniad iddynt.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos gweledigaeth am y math o system addysg mae am gael.
“Mae’n rhaid iddynt weithio gyda’r sector ar strategaeth ar gyfer ei weithredu.
“Mae’n rhaid iddynt osod y seilwaith yno i alluogi ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia i’w weithredu.
“Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn beio’r sector addysg am fethiannau pan nad ydynt wedi dweud yn glir at beth mae’r sector yn anelu. Nid ydynt wedi rhoi i’r sector yr arweiniad na’r gefnogaeth angenrheidiol.”
Ychwanegodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin: “Ar lefel ysgol a dosbarth, mae’r OECD yn argymell dysgu wedi ei bersonoleiddio yn fwy i ddisgyblion – mae hyn yn cyd-fynd â galwad Plaid Cymru am i athrawon ddefnyddio system olrhain, er mwyn gallu ymyrryd i helpu disgyblion unigol sydd angen cymorth ychwanegol.
“Mae ar ddisgyblion angen cymorth am lawer gwahanol reswm: o fod yn ddawnus a galluog i fod ar ei hôl hi gyda darllen neu fathemateg, i fod â phroblemau ymddygiad.
“Rydym yn galw am fuddsoddiad mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i’r gweithlu addysg i wella llythrennedd, rhifedd, ymddygiad a phresenoldeb a chau’r bwlch tlodi mewn cyrhaeddiad addysgol.”
Ymateb UCAC
MAE UCAC wedi croesawu adroddiad yr OECD am addysg yng Nghymru.
Yn ôl Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae’r adroddiad yn beirniadu Llywodraeth Cymru am ddiffyg gweledigaeth a ddiffyg cynllunio strategol ym maes addysg.
"Mae’n gosod y bai yn glir wrth ddrws y Llywodraeth am gynllunio gwan ar gyfer gweithredu blaengareddau newydd, diffyg gweledigaeth ac eglurder hir dymor wrth lunio polisïau, am beidio darparu cefnogaeth addas a hyfforddiant i athrawon, ac am ddiffyg cynllunio’r gweithlu addysg, sydd wedi effeithio safonau.
“Mae hyn yn adlewyrchu’r gofidiau difrifol y mae UCAC wedi eu codi dro ar ôl tro, ar ran aelodau, gan gynnwys y ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno gormod o newidiadau yn rhy gyflym, a heb greu strwythur addas ar gyfer gwella ysgolion.
“Mae’r adroddiad yn cyfeirio at awyrgylch positif yn ein dosbarthiadau a pherthynas dda iawn rhwng athrawon a disgyblion sydd yn hybu dysgu, ond mae hefyd yn beirniadu diffyg statws a chydnabyddiaeth i athrawon yn genedlaethol yng Nghymru, sydd yn effeithio ar recriwtio.
"Mae’n rhaid stopio rhoi’r bai ar athrawon am bethau sydd tu hwnt i’w rheolaeth a chydnabod pwysigrwydd swydd athro ar gyfer dyfodol ein plant a phobl ifainc.
“Does dim dwywaith amdani mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn y cyfrifoldeb a’r her o ddatrys y problemau hyn. Nid yw’n ddigonol i’r Gweinidog ddweud eu bod eisoes yn gwneud nifer o bethau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Nid nawr yw’r amser i olchi dwylo o gyfrifoldeb.
"Mae’n wir bod y Llywodraeth wedi cymryd camau bach ymlaen ond mae cymaint ar ôl i’w wneud.”
Llun: Simon Thomas