Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Ebrill 2014

Rhagor o gyllid adfywio i ardaloedd amddifadus

Heddiw, mae Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cyhoeddi y bydd £2 filiwn arall ar gael i helpu i adfywio rhai o ardaloedd mwyaf amddifadus Cymru.
 
Mae’r arian ychwanegol yn ogystal â’r £5 miliwn a gyhoeddwyd y mis Medi diwethaf yn dod gan gynllun Trechu Tlodi’r Llywodraeth - Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.  Golyga hyn y bydd 7 awdurdod lleol yn cael £1 miliwn yr un.
 
Dyma’r cymunedau fydd yn cael arian:  Tredegar ym Mlaenau Gwent; Rhymni yng Nghaerffili; Grangetown yng Nghaerdydd; Llanelli yn Sir Gaerfyrddin; Y Rhyl, yn Sir Ddinbych; Caernarfon yng Ngwynedd a’r Barri ym Mro Morgannwg.
 
Dywedodd y Gweinidog: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drechu tlodi a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru.  Mae adfywio’n rhan bwysig o’r gwaith hwn ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cynnydd hwn.
 
“Bydd y saith awdurdod lleol yn cael £1 miliwn yr un ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n defnyddio arian hwn i gyfrannu at ymdrechion adfywio yn eu hardaloedd a chreu swyddi a chyfleoedd i hyfforddi.
 
“Y cam nesaf yw trafod gyda’r awdurdodau lleol y ffordd orau o wireddu’r amcanion hyn a sicrhau bod y cymunedau lleol yn cael y budd mwyaf o’r arian.” 
 
Mae’r cyllid hwn i’r cymunedau hynny lle bu eu cais am arian o gronfa gwerth £100 miliwn gan Lywodraeth Cymru - Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn aflwyddiannus ac mae eu hardaloedd arfaethedig ar gyfer adfywio ymysg y 10% uchaf yn y mynegai amddifadedd lluosog.
 

Rhannu |