Mwy o Newyddion
Alun Jones yn ennill Medal Goffa Syr T.H. Parry-Williams
Alun Jones, yn wreiddiol o Sir Gâr, ond sydd wedi ymgartrefu yn Chwilog erbyn hyn, yw enillydd Medal Goffa Syr T.H.Parry-Williams er clod eleni.
Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Mae Alun wedi chwarae rhan bwysig mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd, ac wrth i’w waith fel athro ei arwain o un lle i’r llall, byddai’n ymroi’n syth i fod yn rhan o weithgareddau lleol ac i hyfforddi, mentora a helpu pobl ifanc mewn gwahanol rannau o’r wlad. Mae’i gyfraniad arbennig yn parhau hyd heddiw yn Chwilog, lle mae Alun yn cynorthwyo gyda hyfforddi ieuenctid yr ardal ers iddo symud i’r ardal.
Yn fab fferm o ardal Llanpumsaint, Sir Gâr, graddiodd Alun yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe cyn hyfforddi fel athro. Dechreuodd ei yrfa yn Ysgol Bargoed, lle bu’n weithgar iawn yn creu cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth, gan hyfforddi’r bechgyn yn yr ysgol a’r gymuned i chwarae rygbi.
Bu’n Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd, lle bu’n gweithio gyda’i gyd-bennaeth, Aneirin Jones, i greu gwers-lyfrau i gyflwyno’r Gymraeg fel ail iaith yn y sector uwchradd. Bu’r llyfrau hyn yn ysbrydoliaeth i nifer fawr o blant a phobl ifanc, gan eu hannog i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl.
Roedd Alun hefyd yn weithgar yn y gymuned leol, yn rhedeg dosbarthiadau nos, a fu’n llwyddiannus iawn ymysg pobl ifanc a rhieni ifanc a oedd yn awyddus i ddysgu’r iaith. Symudodd ef a’r teulu o Bontypridd i Flaenau Ffestiniog ar ddechrau’r 70au, pan y’i penodwyd yn Bennaeth y Gymraeg, Ysgol y Moelwyn. Yma hefyd gwelodd Alun yr angen i ysbrydoli’r bobl ifanc y tu allan i’r ysgol, ac aeth ati i ffurfio partïon llefaru, grwpiau cyflwyniadau llafar, timoedd ac unigolion ar gyfer cystadlaethau siarad cyhoeddus a chyflwyniadau theatrig, gyda llawer o’r criw ifanc yn mynd ati i gystadlu am y tro cyntaf.
Daeth Alun yn Bennaeth y Gymraeg yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth, yn 1974, a dyma lle yr arhosodd y teulu am flynyddoedd, gydag Alun yn hyfforddi, mentora a chynghori cenedlaethau o bobl ifanc, gyda nifer yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ym myd perfformio neu gyflwyno. Bu hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr y brifysgol, a byddai bob amser yn fodlon gwrando, annog a chynnig cymorth lle roedd angen, gan fagu hyder amryw o feirniaid ifanc.
Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn weithgar yn ei gymuned yn Rhydypennau, gan sefydlu Parti Nant Afallen, a fu’n fuddugol sawl tro yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn yr Ŵyl Gerdd Dant, yn ogystal â chefnogi eisteddfodau llai.
Ar ôl ymddeol o Ysgol Penweddig, bu’n darlithio yn Adran Addysg y Brifysgol, lle yr ysbrydolodd genhedlaeth o athrawon gan eu argyhoeddi o bwysigrwydd gwaith allgyrsiol i sicrhau ffyniant y Gymraeg. Bu’n Brif Arholwr CBAC Cymraeg Lefel A, ac mae’n parhau i arholi’n llafar o amgylch Cymru.
Erbyn hyn, ac yntau wedi ymddeol o’r brifysgol, mae’n gweithio fel golygydd i wasg Y Lolfa, ac mae’n cynghori a helpu awduron hen ac ifanc sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ddi-os, mae brwdfrydedd a chyfraniad Alun yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr T.H. Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni.
Bu Syr T.H.Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.
Bydd Alun yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr a gynhelir yn Y Meysydd Gŵyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, o 1-9 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod, ewch i www.eisteddfod.org.uk.