Mwy o Newyddion
Goronwy Wynne yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg
Cyflwynir Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr i Goronwy Wynne o Sir y Fflint, am ei gyfraniad hyd-oes i natur a botaneg.
Ganwyd a magwyd Goronwy Wynne yn Sir y Fflint, ac ar ôl graddio mewn Amaethyddiaeth a Botaneg ym Mangor, dychwelodd i’w gynefin i ddysgu bywydeg yn ei hen ysgol yn Nhreffynnon am ddeuddeng mlynedd, cyn symud i weithio i Goleg Cartrefle, Wrecsam (Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru wedi hynny) lle bu’n bennaeth yr Adran Bioleg hyd ei ymddeoliad.
Enillodd radd M.Sc. o Brifysgol Salford, a Diploma Naturiaetheg Prifysgol Llundain (gydag anrhydedd). Treuliodd flwyddyn yn dysgu yng Nghanada, a bu’n darlithio yn Gymraeg a Saesneg am nifer o flynyddoedd i’r W.E.A, i’r Field Studies Council, i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac i Adran Allanol y Brifysgol ym Mangor.
Cyhoeddodd erthyglau gwyddonol yn Watsonia, Biol. Journal of the Linnean Society, Y Gwyddonydd, Gwyddoniadur Cymru, a’r Traethodydd. Am bedair blynedd bu’n golygu’r cylchgrawn Cymraeg Berwyn i’r Cyngor Cefn Gwlad. Cyfrannodd erthygl yn wythnosol ar fyd natur i’r papur newydd lleol am ddeunaw mlynedd, ac am ddeng mlynedd ef oedd golygydd cylchgrawn Cymdeithas Edward Llwyd Y Naturiaethwr, ac y mae’n gyd-awdur y gyfrol Enwau Blodau Llysiau a Choed. Bu’n cynrychioli Cymdeithas Fotanegol Prydain fel Cofnodydd (Recorder) yn Sir Fflint am ddeugain mlynedd, ac yn 1993 cyhoeddodd ei brif gyfrol Flora of Flintshire. Derbyniodd radd Ph.D am y gwaith yma.
Yn 2005 cafodd Ddoethuriaeth am ei gyfrol am Dafodiaith y Gymraeg yn Sir Fflint, a’r un flwyddyn etholwyd ef yn Gymrawd Prifysgol Bangor am ei waith dros wyddoniaeth yn y gymuned. Y mae hefyd yn Gymrawd o Gymdeithas Lineaidd (biolegol) Llundain, ac yn Fiolegydd Siartredig.
Y mae’r Eisteddfod yn agos iawn at ei galon. Bu’n Llywydd Anrhydeddus a bu’n cystadlu, arwain cymanfa, darlithio, a beirniadu sawl tro, a bu’n pwyllgora’n ddi-ddiwedd! Traddododd y Ddarlith Wyddoniaeth yn 1995, a bu’n gohebu i’r Cymro ar weithgareddau’r Eisteddfod am sawl blwyddyn. Derbyniwyd ef i’r Wisg Wen yn 1997. Ei brif ddiddordeb oriau hamdden yw cerddoriaeth. Mae wedi arwain llawer o gorau, ac wedi cefnogi’r Eisteddfod (gan ennill a colli!) ar hyd y blynyddoedd.
Y mae ei ddiddordeb ym myd natur ac ecoleg yn parhau. Ac ar hyn o bryd y mae’n gweithio ar lyfr Cymraeg sy’n trafod dosbarthiad y blodau gwyllt dros siroedd Cymru.
Bydd Goronwy Wynne yn debyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod yn Llanelli fis Awst.