Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Ebrill 2014

Croesawu adroddiad addysg

Cafodd adolygiad rhyngwladol pwysig o addysg yng Nghymru a gyhoeddwyd heddiw ei groesawu gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau.
 
Cafodd Improving Schools in Wales: An OECD Perspective ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2012.
 
Gofynnwyd i OECD ddarparu asesiad allanol o ansawdd a thegwch deilliannau addysg yng Nghymru; dadansoddiad arbenigol o agweddau allweddol ar bolisi addysg ac i dynnu sylw at feysydd polisi a ffordd o weithredu polisi a allai ychwanegu gwerth a gwella deilliannau addysg ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
 
Wrth siarad am ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd Huw Lewis: “Hoffwn i ddiolch yn bersonol i OECD am yr adroddiad cynhwysfawr a manwl hwn. Os ydych chi am fod y gorau, mae'n bwysig ichi ddysgu oddi wrth y gorau.
 
“Rwy'n croesawu canfyddiadau'r adroddiad ac mae'n fy nghalonogi ein bod ni eisoes yn gwneud llawer o'r hyn sydd wedi'i argymell fel rhan o'n hymdrech i ddiwygio safonau addysg yng Nghymru.  Mae'n dda gweld ein bod ni ar y trywydd cywir.
 
“Roedd y frawddeg ganlynol yn arbennig yn destun calondid imi  – ‘Welsh schools are also positive learning environments with good teacher-student relations and classrooms conducive to learning.’ Mae hynny'n newyddion da.
 
“Rwy'n derbyn yr argymhellion sy'n galw am wella hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus i athrawon. Rwy'n cytuno bod angen mwy o gydweithio rhwng ysgolion; gwella arweinyddiaeth mewn ysgolion a bod angen rhoi mwy o barch i athrawon. Mae'r rhain yn ganolog i'n hagenda ar gyfer gwella ysgolion.
 
“Mae'r alwad am nifer bach o amcanion clir, ar gyfer y tymor hir yn un cadarn. Rwy'n cytuno'n llwyr, os yw ein dysgwyr am ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd, bod angen i'n disgwyliadau ni ohonyn nhw fod yn uchel, beth bynnag y bo eu cefndir.
 
“Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu heriau yng Nghymru. Dyw'r hyn a ddarllenir yn yr adroddiad ddim yn syndod yn hyn o beth.  
 
“Mae fy nod gyffredinol ar gyfer addysg yng Nghymru yn un syml. Dw i am wneud yn siŵr bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael addysg o safon fyd-eang ac yn mynd ymlaen i gystadlu yn y farchnad fyd-eang. Byddai unrhyw beth llai na hynny’n annerbyniol."
 
Yn ôl Beatriz Pont, Uwch-ddadansoddwr Polisi sy'n arwain ar Adolygiad yr OECD yng Nghymru: Dylai Cymru barhau i ganolbwyntio ar strategaeth hirdymor a chynaliadwy ar gyfer gwella ysgolion. Dylai fuddsoddi yn y proffesiwn addysgu ac arweinyddiaeth ysgolion a sicrhau bod ysgolion a'u staff yn gallu ymateb i anghenion dysgu eu holl fyfyrwyr, a bod fframwaith gwerthuso ac asesu cynhwysfawr yn sail i hyn i gyd."
 
Bydd y Gweinidog yn bresennol yng Nghyfarfod Pwyllgor Polisi Addysg OECD ym Mharis ddiwedd yr wythnos i drafod canfyddiadau'r adroddiad.
 
 

Rhannu |