Mwy o Newyddion
Dyddiad newydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer gwaith adeiladu ysgol gwerth miliynau o bunnoedd
Bydd gwaith yn dechrau dros wyliau'r Pasg ar ysgol gynradd o'r radd flaenaf newydd gwerth miliynau o bunnoedd yn Abertawe.
Bydd Dawnus, y contractwyr a benodwyd gan Gyngor Abertawe, yn dechrau cloddio'r tir ar gyfer Ysgol Gynradd Burlais ym Mharc Cwmbwrla ar 28 Ebrill.
Bydd yr ysgol gynradd ar gyfer 525 o ddisgyblion yn disodli dau adeilad Fictoraidd yng Nghwmbwrla a Threfansel. Bydd yn cynnwys dosbarth meithrin a Chyfleuster Addysgu Arbenigol i blant ag anawsterau lleferydd ac iaith.
Disgwylir y bydd y prosiect cyfan yn costio tua £8.25 miliwn a ariennir yn rhannol gan grant Llywodraeth Cymru gwerth £4.125 miliwn gyda Chyngor Abertawe'n talu'r gweddill.
Meddai'r Cyng. Will Evans, Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau: "Bydd 28 Ebrill yn ddiwrnod pwysig iawn yn hanes addysg gynradd yn Abertawe gan y byddwn yn dechrau adeiladu'r ysgol hon y cafwyd llawer o ymgyrchu drosti ar gyfer cymunedau Cwmbwrla a Threfansel.
"Mae'r prosiect yn rhan o raglen gyffredinol Addysg o Safon (AoS) Cyngor Abertawe. Ei nod yw gwella safonau addysgol ar draws y ddinas."
Ers uno ym mis Medi 2012, mae Ysgol Gynradd Burlais wedi bod yn gweithredu o safleoedd hen ysgolion cynradd Trefansel a Chwmbwrla. Nid yw'r naill safle'n bodloni safonau ysgol ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae hyn wedi golygu bod angen adleoli'r ysgol ym Mharc Cwmbwrla er mwyn rhoi digon o le priodol ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, yn enwedig ar gyfer y cyfnodau meithrin a Sylfaen.
Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys ailadeiladu cyfleusterau newid cymunedol adfeiliedig i gefnogi adfywio Parc Cwmbwrla. Bydd yn helpu i ddod â chaeau pêl-droed yn ôl i ddefnydd buddiol i'r gymuned. I gefnogi'r prosiect, bydd gwaith gwella traffig cysylltiedig.
Mae'r rhaglen AoS hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion cynradd eraill yn y ddinas, gan gynnwys Ysgol Gynradd Treg?yr ac YGG Lôn-las, yn ogystal ag estyniadau newydd yn ysgolion cynradd Newton a Glyncollen.
Mae'r prosiectau'n cael eu hariannu trwy grantiau Llywodraeth Cymru ac arian a godwyd gan Gyngor Abertawe trwy werthu asedau cyfalaf.