Mwy o Newyddion
Y lle gorau i weld dolffiniaid
Mae dydd Llun, 14 Ebrill yn Ddiwrnod Dolffin Cenedlaethol, a'r lle gorau i weld y boblogaeth fwyaf o ddolffiniaid trwynbwl yn Ewrop yw ar hyd arfordir ysblenydd Ceredigion yng Ngorllewin Cymru. Gellir eu gweld yn rheolaidd o'r lan neu os ydych eisiau golwg agosach mae teithiau cychod i wylio’r dolffiniaid yn gadael o dref glan môr boblogaidd Cei Newydd mewn i Fae Ceredigion.
Amcangyfrifir bod tua 200 o ddolffiniaid yn byw oddi ar arfordir Ceredigion gyda llawer o ddolffiniaid ymfudol yn ymuno dros dro gyda grwpiau lleol yn ystod y gwanwyn a ddechrau'r haf. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, maent wedi dod yn atyniad mawr i dwristiaid a phobl yn heidio o bob cwr o'r DU a thu hwnt i gael cipolwg ar y creaduriaid cyfeillgar hyn.
Mae’r cychwr lleol Steve Hartley yn mynd â phobl allan yn rheolaidd i weld y dolffiniaid ac mae'n dweud fod y diddordeb wedi tyfu'n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf.
Meddai: "Mae'r dolffiniaid wedi bod yma ers blynyddoedd lawer ond byddwn yn dweud fod y diddordeb wedi datblygu'n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
"Mae pobl yn mwynhau gallu gweld y creaduriaid eiconig hyn yn eu hamgylchedd naturiol; mae gwylio o gwch yn rhoi’r cyfle perffaith iddynt weld yr anifeiliaid yn agos, gan eu bod yn aml yn dod yn agos i’r cwch.
"Rydym yn ffodus iawn yma yng Ngheredigion i gael cymaint o fywyd gwyllt - does dim rhyfedd fod pobl isie ymweld."
Does dim rhaid gadael tir sych i weld y dolffiniaid - maent yn aml yn bwydo yn agos i’r lan, ac mae rhan Ceredigion o Lwybr Arfordir Cymru yn rhoi mynediad hawdd i'r arfordir gwych hyn gyda phentiroedd fel Mwnt a Cheinewydd yn lefydd arbennig o dda i’w gwylio.
Yn ôl Ann Eleri Jones o Wasanaeth Twristiaeth Ceredigion mae’r dolffiniaid bellach yn rhan annatod o Fae Ceredigion: "Dros y blynyddoedd diwethaf mae ardal Ceredigion a Bae Ceredigion wedi tyfu mewn poblogrwydd gydag ymwelwyr yn manteisio ar y golygfeydd syfrdanol a'r cyfleoedd gweithgareddau awyr agored, o feicio a cherdded, syrffio a hwylio.
"Ar ben hynny mae ganddon ni un o'r enghreifftiau mwyaf rhyfeddol o fywyd gwyllt naturiol gyda’n poblogaeth o ddolffiniaid. Does dim golygfa llawer gwell na gwylio’r creaduriaid hardd hyn neidio ac yn prancio yn y môr ym Mae Ceredigion."
Nid dolffiniaid yw'r unig fywyd gwyllt y gallwch weld wrth ymweld â Cheredigion; mae morloi llwyd, llamidyddion ac adar môr i gyd i’w gweld o'r clogwyni, ac os ydych yn wirioneddol lwcus, mae hyd yn oed y posibiliad o weld morfil – mae morfilod llofrudd, morfilod pigfain a hyd yn oed humpbacks i gyd wedi cael eu gweld dros y blynyddoedd diwethaf.
Os ydych, serch hynny, yn mentro allan i’r môr, gofalwch eich bod yn dilyn Cod Morol Ceredigion er mwyn osgoi achosi unrhyw broblemau i'r bywyd gwyllt gwych yr ydych yn ei weld.
Dim ond un o nifer o atyniadau twristiaeth yng Ngheredigion yw gwylio dolffiniaid a gellir cael mwy o wybodaeth ar www.darganfodceredigion.co.uk
Llun gan Janet Baxter