Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ebrill 2014

Achubwyd Pantycelyn

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi cyhoeddi fod ei ymgyrch i gadw Neuadd Pantycelyn ar agor wedi bod yn llwyddiannus.

Mewn cyfarfod heddiw â rhai o uwch-swyddogion y Brifysgol a dirprwyaeth o gangen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol cytunwyd ar gynllun i gadw’r adeilad ar agor fel llety i fyfyrwyr sy’n siarad ac yn dysgu Cymraeg.

Mae yna gynlluniau hefyd i sefydlu Canolfan Ddiwylliannol Gymraeg yn rhan o’r adeilad i hybu twf cymuned Gymraeg Aberystwyth, yn fyfyrwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd. Cafwyd sicrwydd na fydd bodolaeth y Ganolfan yn cael effaith negyddol o gwbl ar yr elfen llety.

Dywedodd Mared Ifan, Llywydd UMCA: “Rydyn ni wrth ein bodd ac yn croesawu penderfyniad y Brifysgol yn fawr. Diolch i holl aelodau UMCA am eu gwaith caled, ac i’n cefnogwyr i gyd. Ar ôl yr holl ymgyrchu, rydyn ni wedi sicrhau llwyddiant anferthol. Mewn undeb mae nerth.”

Bydd Gweithgor a Fforwm Staff a Myfyrwyr Cymraeg yn cael ei sefydlu yn yr wythnos nesaf er mwyn sicrhau dilyniant i’r trafodaethau ac mae cynrychiolwyr UMCA yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r datblygiadau.

Mewn datganiad gan y brifysgol dywedwyd fod Prifysgol Aberystwyth yn croesawu’r cytundeb gydag UMCA  i weithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu Cynllun Busnes ar ddefnydd Neuadd Pantycelyn i’r dyfodol fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant.

"Mae hyn yn cynnwys datblygu opsiynau manwl ar gyfer parhad Pantycelyn fel llety arlwyo ar gyfer myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr y Gymraeg.

"Yn sgìl ymgynghori gydag aelodau o staff dysgu’r Brifysgol a Changen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Brifysgol wedi datblygu cynnig a fydd yn gweld y Brifysgol ac UMCA yn cydweithio’n agos ar y Cynllun Busnes.

"Gobaith y Brifysgol yw y bydd y Ganolfan Gymraeg a Diwylliant yn gweithredu fel canolbwynt i’n cymuned Gymraeg gyfan, gan gynnwys myfyrwyr, staff ynghyd â’r gymuned ehangach.

"Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i ddenu myfyrwyr Cymraeg i Aberystwyth ac i hybu’r modd y maent yn cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy’n ehangu ynghyd ag ystod mor eang â phosib o gyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg.

"Ar hyd yr adeg, bwriad datblygu llety cyfrwng Cymraeg o safon uchel fel rhan o ddatblygiad £45m Fferm Penglais oedd sicrhau bod myfyrwyr sy’n medru neu’n dysgu’r Gymraeg yn mwynhau llety a chyfleusterau cymunedol o’r radd flaenaf, a chyda’r gorau mewn unrhyw brifysgol.

"Mae datblygiad Fferm Penglais wedi bod yn amcan a ddiffiniwyd yn hollol glir gan y Brifysgol ers bron i 6 mlynedd. Bu cynrychiolwyr y myfyrwyr, gan gynnwys Llywydd UMCA a Llywydd Undeb y Myfyrwyr, yn rhan lawn o’r ymgynghoriad ar hyd y ffordd."

Rhannu |