Mwy o Newyddion
Plaid am geisio ail-enwi'r Cynulliad yn 'Senedd Genedlaethol Cymru'
Mae Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan wedi gosod gwelliant i’r Mesur Cymru fyddai’n newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd Genedlaethol Cymru.’
Nododd arweinydd y grŵp, Elfyn Llwyd AS, fod newid enw’r sefydliad i un sy’n adlewyrchu ei statws fel corff deddfu (ers refferendwm 2011) yn fater o synnwyr cyffredin.
Dywedodd Mr Llwyd: “Byddai’r gwelliant hwn yn arwain at newid syml sef addasu enw swyddogol y Cynulliad i Senedd Genedlaethol Cymru.
“Mae’r Mesur Cymru eisoes yn gwneud darpariaeth i newid enw Llywodraeth Cynulliad Cymru i Lywodraeth Cymru. Mae hi ond yn iawn fod enw’r sefydliad hefyd yn adlewyrchu ei statws fel corff sy’n medru deddfu’n llawn - statws a enillwyd yn sgil refferendwm 2011 ar bwerau pellach.
“Mae arweinwyr y pleidiau eraill yng Nghymru eisoes wedi siarad o blaid y newid hwn. Rydym yn gobeithio y bydd y gwelliant yma sy’n fater syml o synnwyr cyffredin yn denu eu cefnogaeth hwy a’u pleidiau.”