Mwy o Newyddion
Copi gwreiddiol o’r Beibl Gymraeg wedi cyrraedd Tŷ Mawr Wybrnant
Cynhaliwyd seremoni symbolaidd gyda’r gymuned leol ac Archesgob Bangor i ddathlu bod copi gwreiddiol o’r Beibl Gymraeg wedi cyrraedd Tŷ Mawr Wybrnant, man geni ei gyfieithydd yr Esgob William Morgan.
Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn un o’r eiddo mwyaf anghysbell sydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi ei guddio yng nghwm Penmachno. Ganwyd William Morgan yno ym 1545 pryd oedd y ffermdy wedi ei leoli ar y prif lwybr porthmyn i Lundain.
“Roedd yn lle prysur yr adeg yna,” medd Gerwyn Edwards, Ceidwad Tŷ Mawr Wybrnant.
Roedd ychydig o’r prysurdeb yna wedi ei ail-greu gyda phlant lleol yn canu eu hoff emynau, Esgob Bangor a’r AS Dafydd Elis Thomas yn darllen o’r Beibl, yn dangos bod Cymraeg William Morgan yn ddealladwy hyd heddiw.
Mewn ymdrech i leihau gafael yr Eglwys Gatholig ar gymdeithas, rhoddodd Elisabeth y Cyntaf ganiatâd i William Morgan gyfieithu’r Hen Destament a’r Testament Newydd o Groegaidd a Hebreaidd i’r Gymraeg. Naw mlynedd yn ddiweddarach, ym 1588, argraffwyd mil o gopïau a thua 800 o rhain yn cael eu rhannu i’r Eglwysi yng Nghymru. Am y tro cyntaf erioed, cynhaliwyd gwasanaethau yn y Gymraeg gan sicrhau parhad yr iaith Gymraeg.
Mae’r copi yma yn un o ddim ond 20 copi arall sy’n bodoli a phrynwyd yn ddiweddar oddi wrth Goleg Harlech gyda chymorth gan Gymdeithas Meirionnydd o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Dyffryn Clwyd. Roedd wedi ei gadw mewn cwpwrdd yn y coleg am 20 mlynedd ac er ei fod dros 400 oed, mae’r clawr lledr mewn cyflwr da iawn.
“Rydym yn hynod o falch ein bod yn medru arddangos copi gwreiddiol o’r Beibl yn man geni’r dyn a oedd yn gyfrifol am ei gyfieithu,” medd Rhys Evans, Rheolwr Gweithrediadau Eryri. “Mae’n hanfodol ein bod yn coffau’r etifeddiaeth amhrisiadwy yma."
Mae’r Beibl yn cael ei arddangos, gyda dros 100 o gopïau eraill o wahanol ieithoedd, megis Swahili, Thai ac Estonia, y rhan fwyaf wedi eu rhoi gan ymwelwyr.
“Mae’n le arbennig, gwerth ymweld,” ychwanegodd Gerwyn Edwards.
Mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor o 12 – 5pm, ddydd Iau i ddydd Sul o’r 3 Ebrill – 2 Tachwedd. Dewch â phicnic er mwyn ymlacio a mwynhau’r llonyddwch tra mae’r plant yn darganfod y llwybr anifeiliaid newydd yn yr ardd.