Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ebrill 2014

Dadorchuddio Porth y Swnt yn Aberdaron

Dechreuodd golau newydd ddisgleirio dros benrhyn Llŷn ar y penwythnos wrth i fwy na 250 o bobl leol o Aberdaron ac ar draws Llŷn ddod ynghyd ar adeg dadorchuddio Porth y Swnt, Canolfan Ragoriaeth Twristiaeth Arfordirol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar ddydd Sadwrn 29 Mawrth.

Roedd y pentref yn llawn cynnwrf wrth i'r gymuned ymgasglu o flaen y drysau i weld un o gyn-ddisgyblion Ysgol Crud Y Werin, Elliw Jones Evans, yn agor y drysau yn swyddogol yn y seremoni.

Enillodd Elliw gystadleuaeth i enwi'r ganolfan ymwelwyr y llynedd a chafodd gipolwg ymlaen llaw ar Borth y Swnt gyda'i theulu yn ystod yr agoriad ddydd Sadwrn. Wrth ei sodlau roedd gweddill y gymuned leol a welodd y ganolfan am y tro cyntaf. 

Nod ganolfan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw cyflwyno'r thema ‘Goleuo Penrhyn Llŷn’ gan annog y bobl leol ac ymwelwyr i'r ardal i weld Llŷn gyda golwg newydd. Cafodd teuluoedd brofiad o hyn am y tro cyntaf ddydd Sadwrn pan gawsant grwydro o gwmpas y dehongliad arloesol yn y ganolfan, sy'n cynnwys taith o'r ‘Dwfn’ tywyll ac atmosfferig, trwy haenau'r ddaear at 'Y Goleuni’ sy'n datgelu hanes cyfoethog Llŷn drwy delesgopau.

Ariennir y ganolfan newydd yn rhannol drwy'r Prosiect Twristiaeth Arfordirol dan arweiniad Croeso Cymru, adran dwristiaeth Llywodraeth Cymru, gyda chymorth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac mae'n diogelu cymeriad unigryw Llŷn trwy eiriau beirdd lleol a thrwy'r gosodiadau. Cynlluniwyd y profiad cyfan fel y gall pobl leol a thwristiaid ddarganfod hanfod yr ardal a'i gwerthfawrogi'n llawnach. Mae pob manylyn bach yn y ganolfan, o'r gwaith celf i'r arteffactau, yn adlewyrchu dylanwad yr ardal a chyfraniadau gan bobl leol.

Gobeithir y bydd Porth y Swnt yn annog ymwelwyr i ddysgu a deall natur a chwedlau'r rhan hardd hon o Gymru, yn cynyddu'r niferoedd ymwelwyr ac yn annog arosiadau hirach ac ymweliadau dod yn ôl.

Meddai Andy Godber, Rheolwr Gweithrediadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llŷn: “Mae cwblhau Porth y Swnt yn dynodi cam mawr o ran cefnogi twristiaeth yn Aberdaron ac mae'n bleser gweld cymaint o gynnwrf a chyffro ynghylch lansiad heddiw. Mae'r ganolfan newydd yn llawn barddoniaeth a gwaith celf lleol ac mae'n rhoi argraff gyntaf ardderchog i'n hymwelwyr ac yn creu mynedfa ar gyfer crwydro gweddill Llŷn.

“Tra bod yr ardal ei hun wedi bod yn atyniad gwych i dwristiaid erioed, nawr mae gan ymwelwyr adnodd newydd a fydd yn eu hysbrydoli i ddarganfod y ffordd draddodiadol Gymreig o fyw ledled Llŷn – yn enwedig gan fod Porth y Swnt ar agor drwy gydol y flwyddyn.”

Meddai Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Eryri a Llŷn, ar ôl y seremoni agor i'r gymuned: “Rwyf wrth fy modd o weld bod ein partneriaeth gyda Croeso Cymru wedi dod a Porth y Swnt yn fyw. Mae hon yn garreg filltir sylweddol. Mae'r gymuned leol wedi bod yn rhan annatod o'r ganolfan ac rydym yn ymrwymo i sicrhau bod hwn yn lle sy'n cynnal y bobl leol a'r economi leol.

“Rydym yn falch iawn o fedru cyflwyno Porth y Swnt i'r gymuned a gobeithiwn y bydd yn dod â buddion economaidd i'r ardal fel y gall ein cenhedlaeth iau aros yma'n hirach, ac y cawn weld mwy o ymweliadau dod yn ôl gan dwristiaid.”

Ar ôl yr agoriad swyddogol, daeth teuluoedd at ei gilydd i fwynhau rhostio mochyn, gwrando ar gerddoriaeth fyw gan y telynor lleol, Andrew Anderson, a mwynhaodd y plant helfa drysor a gweithdy barddoniaeth gyda'r bardd o Lŷn, Christine Evans.  Daeth y dathliadau i ben gyda cherddoriaeth a drefnwyd gan Westy'r Tŷ Newydd.

 

Rhannu |