Mwy o Newyddion
Toriadau cymhorthdal trafnidiaeth gyhoeddus yn achosi pryder
Mae Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd wedi datgan pryder am effeithiau tebygol ar wasanaethau bws yn lleol oherwydd toriadau sylweddol yn y gyllideb mae’r Cyngor yn ei dderbyn gan y Llywodraeth i gefnogi nifer o lwybrau bws y sir.
Rhagwelir y bydd cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd yn wynebu diffyg o £500,000 yn y gyllideb yn ystod 2014/15 oherwydd toriadau mewn cymorthdaliadau gan Lywodraeth Cymru wedi ei gyplysu â chost ychwanegol y gwaith diweddar o ail-dendro holl gytundebau bws y sir.
Daw penderfyniad y Llywodraeth i dorri cymhorthdal cludiant cyhoeddus ar yr union adeg mae Cyngor Gwynedd yn ei gyfanrwydd yn wynebu’r her o ddiffygion yn y gyllideb o £50 miliwn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gludiant cyhoeddus, y Cynghorydd Gareth Roberts: “Rydw i’n poeni’n fawr am oblygiadau penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri’r cymhorthdal pwysig yma, yn enwedig oherwydd yr effaith tebygol ar drigolion Gwynedd sy’n byw mewn cymunedau gwledig a diarffordd.
“Gan fod y Cyngor cyfan yn dod i delerau â thoriadau enfawr yn ein cyllidebau cyffredinol, ychydig iawn allwn ni ei wneud i ysgafnhau’r baich ar hyn o bryd oni bai ein bod yn rhoi blaenoriaeth i gludiant cyhoeddus dros wasanaethau lleol hanfodol eraill.
“Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn dechrau ar y gwaith o baratoi a chynllunio ar gyfer y newidiadau y bydd yn rhaid eu gwneud. Fel rhan o’r broses rydym yn benderfynol o fod yn greadigol a meddwl am ffyrdd gwahanol o gefnogi gwasanaethau fel nad ydynt yn darfod yn gyfan gwbl.
“Er enghraifft, mae mentrau cludiant cymunedol gwirfoddol eisoes wedi bod yn llwyddiant mewn rhai rhannau o’r sir. Byddwn yn edrych ar ffyrdd gall y model yma gael ei gefnogi a’i ddatblygu, yn enwedig yn ein cymunedau sydd â phoblogaeth wasgaredig.
“Byddaf yn gwthio’r cwch i’r dŵr drwy ffurfio pwyllgor gwaith trawsbleidiol o Gynghorwyr er mwyn trafod posibiliadau yn ardal Meirionnydd ac i weld os oes modd troi’r bygythiadau amlwg i fod yn gyfleon.”