Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ebrill 2014

Gweinidog yn croesawu cyfnod newydd o welliannau addysgol yng Nghymru

Ddoe, cyhoeddodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, fod cyflwyno’r model cenedlaethol newydd ar gyfer consortia addysg rhanbarthol yng Nghymru yn ddechrau cyfnod newydd yn hanes yr ymgyrch i wella ysgolion.

O fis Ebrill ymlaen bydd y consortia rhanbarthol yng Nghymru yn gweithredu yn unol â model cenedlaethol cyson a byddant yn gyfrifol am godi safonau ysgolion yn gyffredinol. 

Mae pedwar consortiwm addysg rhanbarthol yng Nghymru ar gyfer yr ardaloedd canlynol: 

·       Y Gogledd (Sir y Fflint, Conwy, Wrecsam, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Ddinbych)

·       Y De-orllewin a'r Canolbarth (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Powys, Ceredigion)

·       Canol De Cymru (Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg)

·       Y De-ddwyrain (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen)

Mae'r dull consortia yn ychwanegu gwerth at yr hyn y gall awdurdodau lleol ei gyflawni ar eu pennau eu hunain, gan ganiatáu iddynt rannu arferion da, gwybodaeth a sgiliau, cynyddu cryfderau yn lleol a meithrin gallu. 

Mae pob consortiwm wedi darparu cynllun busnes strategol gyda deilliannau clir ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd Llywodraeth Cymru yn dal pob consortiwm i gyfrif am y rhain drwy gynnal cyfarfodydd herio ac adolygu rheolaidd.

Dywedodd Huw Lewis: “Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi cyflwyno ein model newydd ar gyfer gwella ysgolion yng Nghymru. 

“Erbyn hyn, mae gennym ni bedwar corff sy'n gallu rhannu eu gwybodaeth, arbenigedd a'u gwasanaethau er budd ein dysgwyr, yn hytrach na 22 o awdurdodau lleol i gyd yn ceisio gwella safonau a pherfformiad yn eu hysgolion eu hunain.

“Bydd y pedwar corff yn gyfrifol am roi'r Model Cenedlaethol ar gyfer Gwella Ysgolion ar waith.  Mae ffocws digyfaddawd yn y Model ei hun ar godi lefelau llythrennedd a rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol -  ein hegwyddorion craidd.

 “Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi ymrwymo i gefnogi a chyllido ein consortia ac rwy’n croesawu'r ymrwymiad hwnnw. Rwyf wedi cael cynllun busnes oddi wrth pob consortiwm. Mae’r cynlluniau hynny i gyd yn glynu at y model cenedlaethol ac mae iddynt ganlyniadau clir. Fodd bynnag, mae angen mwy o waith arnyn nhw i gyd a byddaf i’n ysgrifennu at arweinwyr cabinet pob Awdurdod Lleol i dynnu sylw at yr hyn sydd angen ei wneud.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth go iawn y bydd y consortia yn ei wneud i ddysgwyr a safonau addysg yng Nghymru”. 

Rhannu |