Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ebrill 2014

Croesawu gwelliant i godi 100% o dreth ar ail gartrefi

Mae Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd yn croesawu’r newydd y bydd modd i awdurdodau lleol godi 100% o dreth gyngor ar ail gartrefi yng Nghymru yn dilyn ymgyrch lwyddiannus gan dîm Plaid Cymru Gwynedd.

Ddoe cyhoeddwyd diwygiad i’r Bil gan Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi pŵer disgresiwn i Awdurdodau Lleol godi cyfradd uwch o Dreth Gyngor ar ail gartrefi.

Ers blynyddoedd Mae Tîm Plaid Cymru, gan gynnwys ACau ac ASau, wedi bod yn galw am fesurau treth lymach ar gyfer perchnogion ail gartref.  Gwêl ardaloedd megis Abersoch, Pwllheli a Phorthmadog gynnydd enfawr yn y boblogaeth yn ystod cyfnodau gwyliau ac mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau lleol. Yn ogystal, mae rhai ail gartrefi, sy'n gorwedd yn wag am nifer o fisoedd o fewn y flwyddyn, ychwanegu at y diffyg tai fforddiadwy sydd ar gael i bobl leol.

Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Cynghorydd Dyfed Wyn Edwards: "Mae hwn yn fater mae Plaid Cymru wedi bod yn edrych arno ac ymgyrchu am nifer o flynyddoedd yn enwedig yng Ngwynedd. Rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau positif gyda’r gweinidog ers peth amser er mwyn ceisio cael yr hawl i godi 200% o dreth ar ail gartrefi a defnyddio’r arian er mwyn adeiladu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer pobl leol.

“Rydym yn naturiol yn croesawu’r gwelliant hwn gan y llywodraeth er bod canran y dreth yn is na’r hyn yr oeddem yn ei obeithio.  Credwn y dylid adolygu hyn ymhen 3 blynedd ac ystyried a oes modd ei gynyddu yn nes i 200%. Gyda phrinder o arian cyhoeddus gallai hwn fod yn ffynhonnell allweddol i sicrhau bod tai ar gyfer pobl mewn angen. Dengys ymchwil cynnar yng Ngwynedd, y gallai oddeutu £ 5 miliwn yn cael ei godi bob blwyddyn  pe bai’r dreth yn 200%.”

Ychwanegodd:“Yng Ngwynedd y mae'r ganran uchaf o ail gartrefi ledled Cymru a Lloegr. Yn 2010 , gwnaed astudiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a oedd yn amcangyfrif fod 22,000 o dai yng Nghymru yn wag am fwy na chwe mis. O'r cyfanswm hwn, 7,784 oedd wedi cofrestru fel ail gartref yng Ngwynedd. Mae gormod o ail gartrefi yn gorwedd yn wag am gyfran helaeth o'r flwyddyn , gan greu adeiladau segur ac yn cyfrannu ychydig iawn at gymunedau , yr economi leol ac i ryngweithio cymdeithasol. Yn ogystal, mae rhai o'r tai hyn yn atal pobl ifanc awyddus, a aned ac a fagwyd yn yr ardal , rhag cael eu traed ar ysgol y farchnad eiddo.”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gadael i gynghorau sir godi treth uwch ar ail dai.

Mae’r polisi yn un o’r argymhellion ym Maniffesto Byw y mudiad iaith a gyhoeddwyd yn gynharach eleni mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.

Dywedodd Cen Llwyd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydym yn croesawu’r newyddion hyn. Fodd bynnag, hoffwn weld yr hawl i gynghorau codi’r dreth yn uwch eto. Mae’n glir iawn bod ail dai yn effeithio’n negyddol ar wahanol agweddau o fywyd cymunedol, megis cynaliadwyedd gwasanaethau lleol a’r Gymraeg. Mae’n iawn i roi’r hyblygrwydd i gynghorau sir adlewyrchu’r effaith honno yn eu polisïau treth - rydym yn disgwyl i gynghorau ymateb yn gadarnhaol i’r pŵer newydd hwn. Mae’n un o’r dros dri deg o argymhellion polisi yn ein Maniffesto Byw ac yn cael ei gefnogi gan fudiadau megis undeb y GMB hefyd. Yn wir, rydym wedi bod yn ymgyrchu ar hyn ers y saithdegau.”

“Mae mewnfudo ac allfudo yn rhai o'r ffactorau sydd yn effeithio fwyaf ar sefyllfa'r Gymraeg yn ein cymunedau. Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, fe welwyd cwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae gadael i gynghorau godi treth uwch ar ail dai yn rhan o’r pecyn o newidiadau i'r system gynllunio ac economaidd sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod pawb yn cael byw yn Gymraeg.”

Rhannu |