Mwy o Newyddion
Methiant trafodaethau Murco yn dangos mai adferiad economaidd taenlen sydd yma
Mae Simon Thomas AC wedi dweud fod methiant y trafodaethau i werthu purfa olew Murco yn Aberdaugleddau, Sir Benfro yn enghraifft arall o adferiad economaidd taenlen nad yw’n helpu pobl sy’n byw yng Nghymru.
Mae rhyw 400 o swyddi yn y burfa yn awr mewn perygl.
Dywedodd AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas: “Dyma esiampl o’r hyn mae Plaid Cymru wedi sôn amdano pan ddywedant fod economi Cymru yn mynd trwy adferiad taenlen nad yw’n cael ei deimlo gan bobl Cymru. Cyfle a gollwyd oedd y gyllideb ddiweddar gan George Osborne.
"Cefais sicrwydd gan gadeirydd Parth Menter Dyfrffordd Aberdaugleddau fod Murco yn ddiogel. Os na fedr parth menter Llywodraeth Cymru gadw swyddi â sgiliau fel hyn yn Sir Benfro, yna mae’n amlwg nad yw’n ddim ond sioe wag arall ddiystyr a di-rym gan Lywodraeth Cymru."
"Byddai colli’r swyddi hyn yn creu twll mawr yn economi Sir Benfro. Bydd Plaid Cymru yn parhau i bwyso am fwy o swyddi a gwell swyddi ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys ardal Aberdaugleddau. Fel Llywodraeth Cymru, fe fuasem ni’n gwneud hyn trwy gynyddu sgiliau, gwell hyfforddiant ac adeiladu ein seilwaith ein hun i wella’r economi.”