Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mawrth 2014

Bywyd newydd i hen adeiladau gorsaf Betws-y-coed

Dydd Sadwrn, 5 Ebrill, bydd oriel gelf newydd (Platform Galeri), 3 fflat wyliau hunanarlwyo moethus (Alpine Apartments) a siop goffi ar ei newydd wedd (Alpine Coffee Shop) yn agor yng ngorsaf Betws-y-coed, gyda diwrnod agored i’r cyhoedd.

Agorodd yr orsaf yn wreiddiol yn 1868. Fe’i  hadeiladwyd yn arddull Adfywiad Gothig oedd mor ffasiynol yn ystod y cyfnod. Erbyn heddiw mae’r tri atyniad sydd wedi’u lleoli yn adeiladau’r orsaf yn ganlyniad i weledigaeth yr artist, ffotograffydd ac ymgyrchydd amgylcheddol Jacha Potgieter.

Mae oriel Platform Galeri yn gorwedd o dan blatfform yr orsaf, yn y gofod oedd, ar un cyfnod, yn atseinio seiniau byddarol disgo cyntaf  gogledd Cymru. Wedi blynyddoedd maith o gael defnydd fel storfa, gwelodd Jacha Potiger ei photensial fel lleoliad ar gyfer arddangos peintiadau, ffotograffau a serameg. Dechreuodd ar y gwaith o adnewyddu’r gofod ym mis Hydref 2012.

Bydd arddangosfa gyntaf oriel Platform Galeri yn cael ei neilltuo i gymysgedd o waith gorffennol a phresennol Jacha.

Daw Jacha o Dde Affrica yn wreiddiol, ac mae wedi ymgartrefu a sefydlu stiwdio ym Metws-y-coed ers 1993. Un o'i brif ddylanwadau yw ei angerdd at waith cadwraeth. Bu’r amser a dreuliodd gyda’r Orangutan Foundation yn Borneo yn 2008 ac yn Camerŵn yn 2010 yn sbardun i'w waith. Arwerthwyd dau o’i baentiadau  mewn ocsiwn noson elusennol yn ddiweddar gyda Syr David Attenborough, Virginia McKenna a Brian May, i gefnogi Hope 4 Apes.

"Fy ngobaith yw y bydd y gwaith sy’n cael ei arddangos yn yr oriel newydd, y fflatiau gwyliau a’r siop coffi yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer yr epaod a materion cadwraeth eraill, sy'n agos at fy nghalon." meddai Jacha.

Mae’r tri fflat wyliau hunanarlwyo, sy’n fannau egsotig o liwiau trawiadol wedi’u cynllunio gan Jacha ei hun, ac yn llawn cyffyrddiadau artistig annisgwyl a dylunio arloesol, a gellir prynu’r gwaith celf sydd yn yr holl fflatiau.

Gall hyd at chwech gysgu yn fflat 1 a 2, sy’n fannau delfrydol ar gyfer teuluoedd neu grwpiau o ffrindiau sydd am gynnal aduniad neu barti. Mae fflat Rhif 6 llai - yn fan perffaith i gwpwl ddianc am wyliau rhamantus. Yma gellir canfod pâr o adenydd angel wedi’u siapio o fetel ar ben y gwely.

Mae Jacha, sy’n ailgylchwr brwd wedi defnyddio hen wrthrychau annisgwyl i greu creadigaethau trawiadol sydd i’w gweld yma a thraw yn y fflatiau, fel y lamp fawr o hen boteli gwydr, a chanhwyllyr trawiadol o liwiau llachar o hen wydrau a phlu iâr wedi’u llifo.

Ymysg y cyfarpar sy’n cael ei ddarparu yng ngheginiau’r fflatiau gwyliau mae  hen grochenwaith gwreiddiol a ddefnyddiwyd i weini bwyd i deithwyr trên ers talwm.

"Daethom o hyd i focsys o blatiau a phowlenni oedd yn llechu mewn corneli llychlyd,” meddai Jacha “ac roedd yn gwneud synnwyr iddynt gael defnydd unwaith eto yn ystafelloedd sydd wedi’u hadnewyddu yn yr hen orsaf."

Comisiynwyd Gerallt Evans, gof lleol o Tan Lan Metalworks, Llangernyw gan Jacha i greu addurniadau cain ar gyfer y fflatiau gwyliau, yr oriel newydd, y siop goffi a’r adeiladau o amgylch yr orsaf yn gyffredinol.

Ymysg y gwrthrychau mae Gerallt wedi’u creu mae ffitiadau golau, balconïau, byrddau, feranda, arwydd metel anarferol BYC (Betws-y-coed) yn steil arwydd NYC, seddau o siâp anarferol i fedru ffitio  o amgylch hen fwrdd Fictoraidd, cegin unigryw, a môr-forwyn metel, sy'n nofio o fewn ffenestr ystafell ymolchi.

"Mae gweithio gyda Jacha wedi bod yn agoriad llygad," meddai Gerallt. "Mae'r rheiliau sy’n arwain i fynedfa i'r oriel yn arbennig iawn – mae cerrig a gemau wedi’u mewnosod o fewn y sgroliau a’r dail troellog

" Cymerodd yr holl beth ryw dair wythnos i’w gwblhau; chwe deg metr o ddur i ddal hanner cant o ddail metel, a byddin o ddynion cryf i’w osod yn ei le!” ychwanega.

Bydd y diwrnod agored yn gyfle i ymwelwyr weld y siop goffi Alpine ar ei newydd wedd, sydd hefyd wedi ei leoli ar y platfform ym Metws-y-coed, ar ei newydd wedd yn ogystal. Mae’r caffi’n darparu coffi sydd wedi ennill gwobrau, te rhydd arbenigol a bwyd blasus. Mae’r cynnyrch i gyd yn fasnach deg ac yn rhydd o olew palmwydd.
 

Rhannu |