Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mawrth 2014

Artist yn chwilio am fodelau i ddangos y cyfan ynghanol prydferthwch Cymru

Mae artist ffotograffiaeth o Ogledd Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i fodelu’n noethlymun a wynebu'r elfennau yng nghefn gwlad Cymru er mwyn ychwanegu at ei ddelweddau tirlun cofiadwy.

Mae’r mynyddwr a’r syrffiwr Glyn Davies, sy'n rhedeg ei oriel ei hun ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, ar fin cynnal arddangosfa o’i gasgliad o noethluniau mewn natur fel rhan o Wythnosau Stiwdios Agored Ynys Môn.

Bydd cyfle i gael cip ar ei waith mewn arddangosfa yn ei oriel yn Stryd y Bont am bythefnos o ddydd Sadwrn, 12 Ebrill, cyn i’r brif arddangosfa agor yn Oriel Ynys Môn, Llangefni, yn ystod yr haf.

Eisoes mae ganddo ddetholiad o ffotograffau trawiadol, ond mae am wneud mwy ac mae’n awyddus i annog mwy o fodelau amatur i ddod ymlaen - yn enwedig dynion.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn dipyn o frwydr i mi ddod o hyd i fodelau sy'n barod i ddringo i gopa mynydd ac yna tynnu eu dillad a dinoethi eu cyrff i’r elfennau a'u heneidiau i’m camera.

“Ond i fod yn onest, rwy'n credu bod bron pob un yn teimlo fod y profiad yn un oedd yn eu rhyddhau. Fedrwch chi ddim gweld wyneb y modelau yn y rhan fwyaf o'r delweddau ac mae hynny’n helpu i ddiogelu hunaniaeth yr unigolyn gan fod rhai o’r modelau yn byw’n lleol ond rhaid i chi gofio nad ffotograffiaeth portread yw’r gwaith yma, mae'r model yno i asio’n rhan o'r dirwedd.

“Y broblem fwyaf sydd gen i yw dod o hyd i ddynion sy’n barod i fodelu. Mae’n ymddangos nad yw’r llawer o ddynion mor agored a rhydd â’r merched.

“Mae'n bwysig bod y modelau yn fain fel eu bod yn edrych yn fregus ynghanol y dirwedd, er fy mod wedi defnyddio un ferch feichiog ar gyfer un ddelwedd gan ei fod yn gweithio'n dda iawn.

“Rwyf hyd yn oed wedi dod o hyd i fodelau newydd ar ôl iddynt weld rhai o'r delweddau ac yna cysylltu â mi er mwyn gwirfoddoli i gymryd rhan.

“Mae’n deimlad braf iawn pan fydd delwedd yn gwneud cymaint o argraff ar rywun nes eu bod am gymryd rhan yn y prosiect, hyd yn oed os yw hynny'n golygu stripio i ffwrdd!”

“Ac rwyf wedi defnyddio modelau ar draws yr ystod oedran, gyda'r hynaf yn 54 a’r ieuengaf yn 18. Mae’r holl beth yn ymwneud â chreu delwedd bwerus a sicrhau bod y model yn cydweddu â’r dirwedd a ddewiswyd.”

Ac mae’n well gan Glyn beidio â defnyddio modelau proffesiynol gan ei fod yn credu bod gan amaturiaid fwy o ymdeimlad o naïfrwydd a heb eu llesteirio gan unrhyw brofiadau proffesiynol blaenorol.

Mae’r gwaith yma yn gweld Glyn, y cafodd ei lyfrau Tirluniau Ynys Môn Cyfrol 1 a 2 eu cyflwyno fel anrheg priodas i’r Tywysog William a Kate Middleton gan y Prif Weinidog David Cameron, yn dychwelyd i brosiect cynnar o'i ddyddiau fel myfyriwr.

Dywedodd: “Mae'r prosiect yma’n un sylweddol, ac yn un yr oeddwn yn awyddus i fynd yn ôl ato. Mae hyn i gyd yn ymwneud â dangos pa mor fregus yw’r ffurf dynol mewn tirweddau mawr. Ond y dirwedd yw’r elfen hanfodol o hyd

“Oes, mae llawer o ffotograffwyr wedi tynnu lluniau o fodelau noeth mewn pob math o dirwedd ond, yn wahanol i’w gwaith nhw, rwy’n gobeithio y bydd y gwyliwr yn gweld y noethluniau yn fy ngwaith fel rhywbeth eilradd i'r dirwedd.

“Rwyf wedi bod yn ceisio tynnu’r prosiect hwn at ei gilydd am y ddwy flynedd diwethaf, ac mae gen i dipyn o ffordd i fynd o hyd.

“Ar ôl dringo creigiau eithafol, ac ymlwybro dros gribau mynydd serth, wynebu waliau o fôr fel syrffiwr ac yn gyffredinol bod yn agored i rym y tywydd ynghanol y dirwedd, rwyf bob amser wedi bod yn ymwybodol o ba mor frau a bregus y ffurf ddynol yn erbyn natur a'r elfennau.

“Felly, yn y prosiect hwn, a ddechreuodd gyda chyfres arbrofol o hunanbortreadau, rwy’n gwneud i’r modelau fod yn hollol ddiamddiffyn drwy dynnu pob amddiffyniad oddi wrthynt - dillad, esgidiau ac offer - ac yna yn eu gosod mewn tirweddau mawr agored.

“Rwyf wedi canolbwyntio ar dirweddau Cymreig sydd â naws cryf, ond mewn gwirionedd nid yw'r lleoliad yn mor bwysig â hynny, gan mai’r syniad sy'n cyfrif.

“Rwyf wedi creu nifer o noethluniau tirwedd mewn mannau eraill yn y DU a thramor hefyd, ac mewn sawl hinsawdd gwahanol. Ond efallai mai tywydd Cymru a phopeth y mae'n ei olygu, yw'r elfen fwyaf dylanwadol ac amlwg.”

Ychwanegodd: “Er bod noethni yn hanfodol i'r prosiect hwn ac yn rhan annatod o’r delweddau, nid ffotograffiaeth 'noeth' yw'r lluniau mewn gwirionedd - maent yn dirluniau gyda mwy o ymdeimlad o raddfa neu ddrama trwy gynnwys y ffigurau noeth, ac mewn rhai ffotograffau, mae’n eithaf anodd i’w gweld.”

A dywed Glyn ei fod yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn mwynhau’r rhagolwg yn ei oriel sy’n rhan o Wythnosau Stiwdios Agored Wythnosau Celf Ynys Môn sy'n gweld artistiaid ar draws Ynys Môn yn agor drysau eu stiwdios i'r cyhoedd.

Eleni mae'r digwyddiad yn cael ei ariannu gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn ac yn y gorffennol sydd wedi derbyn cyllid gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Y llynedd, denodd yr Wythnosau Celf Agored dros 13,000 o ymwelwyr a dywedodd y trefnydd Mike Gould: “Mae gwaith Glyn yn arbennig o drawiadol ac rwy'n siŵr y bydd gwel dy ffotgraffau yn ysgogi meddwl ymwelwyr â’i oriel, a'r arddangosfeydd yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi, a Chanolfan David Hughes, Biwmares,.

“Bydd Glyn a'r artistiaid eraill sy'n ymwneud â’r digwyddiad yn awyddus i gyfarfod a siarad ag ymwelwyr â'u stiwdios, yn aml dros baned o de, ac fe all hyn roi cip unigryw i bobl ar y broses artistig.

“Mae gennym deithiau tywys ar fws am ddim ac eleni rydym hefyd yn cynnig dwy daith gerdded natur gyda thywysydd sydd hefyd am ddim er mwyn cysylltu rhwng rhai o'r stiwdios. Cyn y blynyddoedd diwethaf yma, roeddem fel arfer yn gorfod rhedeg y digwyddiad ar ychydig iawn o gyllid ac yn cael trafferth codi arian i’w gynnal, felly eleni rydym yn hynod ddiolchgar i'n harianwyr.”

Dywedodd Glyn: “Rwy'n gwybod y gall y pwnc yma gael ei weld fel un dadleuol, oherwydd mae gan bobl eu syniadau a’u rhagfarnau eu hunain pan fyddwch yn sôn am noethluniau neu noethni. Ond rwy’n gobeithio nad yw hynny'n wir yn yr achos yma ac y bydd pobl yn gweld y tu hwnt i'r amlwg.

“Yn wreiddiol mi wnes i feddwl am y testun yma pan oeddwn yn y Coleg Celf rhyw 30 mlynedd yn ôl. Mae wedi bod yn braf mynd yn ôl ac ailymweld â phrosiect gyda llygad hollol wahanol ar ôl dros 30 mlynedd o brofiad masnachol.

“Mae wedi bod yn brosiect diddorol ond rwy’n teimlo fod gen i dipyn o ffordd i fynd o hyd. Y cyfan sydd ei angen arnaf yw ychydig mwy o fodelau, dynion a merched, sy’n barod i ddringo mynyddoedd, tramwyo ar draws draethau neu drwy goedwigoedd nes i ni ddod o hyd i'r dirwedd berffaith - ac yna tynnu eu dillad i ffwrdd ar gyfer y camera.”

I weld gwaith Glyn ewch i http://bit.ly/1d79DGO ac i gael mwy o wybodaeth am Wythnosau Celf Ynys Môn ewch i www.angleseyartsweeks.org

Ar gyfer ceisiadau am gopïau caled o'r Canllaw neu i archebu taith ffoniwch

Rhannu |