Mwy o Newyddion
Troedio Terfyn y Plwy
Awdur i gerdded 30 milltir mynyddig mewn diwrnod, i godi arian i Gymdeithas Clefyd Motor Neurone, er cof am ei fam.
Bydd y nofelydd a chyflwynydd teledu Dewi Prysor yn ymgymeryd â thaith gerdded go unigryw ar y 21 Ebrill i godi arian i Gymdeithas Clefyd Motor Neurone (MNDA) er cof am ei fam, Gwyneth Mair Williams, a fu farw’n sydyn o’r clefyd ar y 25ain o Awst 2013.
Plwy Trawsfynydd yw’r plwy mwyaf yng Nghymru, gyda radiws ei derfyn mynyddig yn 30 milltir o hyd. Bydd Dewi yn cerdded y terfyn hwn i gyd mewn diwrnod, a hynny ar ddyddiad penblwydd ei fam – sy’n digwydd disgyn ar Ddydd Llun y Pasg eleni.
Meddai’r awdur, a fagwyd yng Nghwm Prysor, Trawsfynydd: “Mi fyddai Mam yn 70 oed ar y diwrnod hwn, a dyma fydd ei phen-blwydd cyntaf ar ôl i ni ei cholli. Felly bydd cerdded o amgylch y plwy ble y magodd hi fi, ar y diwrnod yma, er mwyn codi arian i geisio cael iachâd i’r clefyd creulon â’i chipiodd hi oddi arnom fel teulu, yn brofiad go arbennig.”
Mae gan Dewi dudalen Just Giving ar y wê, http://www.justgiving.com/DEWI-PRYSOR lle y gall bobl gyfrannu arian, ac mae yna botiau hel arian a ffurflenni noddi yn ‘Spar Glyndŵr’ Trawsfynydd, ‘Fferyllfa Rowlands’ Bala, Siop ‘Awen Meirion’ Bala, ‘Caffi a Siop Llanfrothen,’ ‘Siop Penybryn’ Llan Ffestiniog a thafarn y ‘Tap (King’s Head)’ Blaenau Ffestiniog. Gall bobl gysylltu â Dewi Prysor drwy Facebook, Twitter (@DewiPrysor) neu ebost dewiprysor@btinternet.com am fanylion sut i yrru sieciau.
MND – “Does dim geiriau”
Yn fam i bedwar, gyda 10 o wyrion i fwynhau eu gwylio’n tyfu, roedd Gwyneth Mair Williams yn ddynes annwyl, siriol, caredig a phoblogaidd oedd newydd ymddeol o’i swydd fel athrawes ysgol gynradd. Roedd hi’n dechrau mwynhau mynd ar dripiau gyda’i ffrindiau, ac wrth ei bodd o gael mwy o amser gyda’i theulu oedd mor bwysig iddi.
Medd Dewi, sydd wedi cyhoeddi 5 nofel, ac yn wyneb cyfarwydd i lawer fel cyflwynydd rhaglen ‘Darn Bach o Hanes’ ar S4C: “Roedd hi’n llawn bywyd, yn gryf ac yn iach, â chymaint o flynyddoedd o’i blaen i’w mwynhau. Ond fe’i trawyd gan y felltith eithaf, a chipiwyd y cyfan oddi arni, a hithau oddi arnom ninnau. Does dim geiriau all ddisgrifio’r peth. Mae o’n rhy greulon i hynny.”
Beth yw MND?
Mae Clefyd Motor Neurone yn gyflwr angeuol sy’n datblygu’n sydyn, ac mae o’n lladd 5 o bobl bob dydd ym Mhrydain. Mae dros 5,000 o ddioddefwyr yn byw gyda’r clefyd ar y funud, ac mae’r nifer yn cynyddu o hyd. Mae dros hanner y bobl y mae o’n daro yn marw o fewn 14 mis. Bu farw Gwyneth lai na 6 mis wedi’r diagnosis. (mwy o wybodaeth am MND yma http://www.mndassociation.org/ )
“Dim golau ar ddiwedd y twnnel.”
Medd Dewi, sydd newydd drosi cartŵn y Crwbanod Ninja i’r Gymraeg i S4C: “Be sy’n digwydd ydi fod plisgyn y niwronnau motor yn dirywio gan achosi i’r nerfau fethu gyrru signalau i’r cyhyrau, gan eu gadael yn ddiymadferth.
"Mae’r math gwaethaf o MND a darrodd Mam yn effeithio’r breichiau, dwylo a’r gwddw, ac yna’r frest. Mae dioddefwyr yn colli’r gallu i siarad, i lyncu bwyd, ac yn y diwedd yn methu anadlu.
"A’r peth creulonaf oll ydi nad yw’r cyflwr yn effeithio’r synhwyrau, felly mae’r person yn hollol ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd iddyn nhw. Does dim iachâd, dim troi’n nôl, dim golau ar ddiwedd y twnnel.”
Cymdeithas Clefyd Motor Neurone (MNDA)
Ar hyn o bryd tydi gwyddonwyr ddim yn gwybod beth sy’n achosi’r cyflwr, ac felly does dim triniaeth na iachâd. Mae’r arian ar gyfer ymchwil yn dibynnu bron yn gyfangwbl ar gyfraniadau elusennol.
Mae Cymdeithas Clefyd Motor Neurone, sy’n elusen cofrestredig (Rhif. 294354), yn ariannu sawl prosiect ymchwil i’r cyflwr, yn ogystal â thalu am offer arbenigol, darparu gofal a chymorth i ofalwyr, ac hefyd yn codi ymwybyddiaeth an MND.
Medd Dewi: “Mae’r arian yr ydym yn gasglu er cof am Mam yn mynd tuag at ariannu prosiect ymchwil 3 mlynedd dan arweiniad Prof. Samar Hasnain ym Mhrifysgol Lerpwl. Mi gasglom £3,803.69 diolch i roddion caredig pobl yn y cnebrwn a chardiau cydymdeimlad, ac mi fydd holl arian y daith gerdded hon yn mynd i’r un prosiect.”
Tirwedd Mynyddig
Plwy mynyddig ydi Trawsfynydd, gyda’r pentref a llawr y plwy yn 700 troedfedd uwchlaw’r môr. Mae’n ymestyn rhwng mynyddoedd y Rhinogydd ac Arenig, gyda’i gornel gogledd-ddwyreiniol ar gopa Carnedd Iago (1739 ft) ar y Migneint, a’i ben mwyaf deheuol yng Ngwaith Aur Gwynfynydd ger Ganllwyd. Mae’n ffinio â phlwyfi Maentwrog, Ffestiniog, Llanycil, Llanuwchllyn, Llanfachreth, Ganllwyd, Llanfair a Llandecwyn.
Bydd Dewi yn dringo 7 prif gopa yn ystod y daith, a’r uchaf ohonynt yw Gallt y Darren (2031’) ar ochrau deheuol Cwm Prysor. Yr ail uchaf yw’r olaf ar y daith, sef Foel Penolau (2014’) – copa mwyaf gogleddol cadwyn y Rhinogydd, ar ochr gorllewinol Llyn Trawsfynydd ger cornel gogledd-orllewin y plwy. (Gweler manylion y daith isod)
Sialens
Yn byw ym Mlaenau Ffestiniog gyda’i wraig Rhian a’u 3 mab, mae Dewi (46) yn hen law ar gerdded. Ond mae’n gweld y daith 30 milltir o amgylch terfyn plwy ei febyd – mewn diwrnod – yn dipyn o her.
“Mi fydd yn bleserus o ran y golygfeydd gwefreiddiol ac olion hanesyddol sydd i’w gweld, ond mi fydd yn dalcen caled. Dwi di cerdded mynyddoedd yn yr Alban, ac wedi troedio copaon Eryri a Meirionnydd i gyd, ond mi fydd y daith hon yn gryn sialens. Mi ydw i’n benderfynnol i’w gwneud hi er cof am Mam. Mae codi ymwybyddiaeth am y clefyd MND yn bwysig, fel y mae codi arian i drio cael iachâd iddo. Fedra i ddim meddwl am deyrnged well i Mam.”
Mae cyfrannu arlein yn hawdd ac yn ddiogel trwy dudalen Dewi ar Just Giving: http://www.justgiving.com/DEWI-PRYSOR Neu, galwch i mewn i’r siopau a enwir uchod, neu gysylltu â Dewi yn bersonol.
Llun: Gwyneth Mair Williams, Meleri a Manon