Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mawrth 2014

Cosmoleg ar Faes yr Eisteddfod

A hithau’n Wythnos Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi derbyn grant o £10,000 gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Technoleg (SRFC) i gefnogi Arddangosfa Cosmoleg yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Sir Gâr eleni.  Bydd yr arddangosfa, ‘Gweld y Fydysawd yn ei Holl Oleuni’, yn cynnwys gwaith arloesol sy'n cael ei wneud gan seryddwyr yng Nghymru.

Meddai Swyddog Gwyddoniaeth a Technoleg yr Eisteddfod, Robyn Wheldon-Williams, “Bydd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar y canlyniadau hynod o deithiau gofod Herschel a Planck, teithiau a ddaeth i ddiwedd eu hoes y llynedd.  Lansiwyd Arsyllfa Gofod Herschel yn 2009, gyda’r telesgop is-goch mwyaf a mwyaf pwerus i hedfan yn y gofod erioed, gyda drych sylfaenol o 3.5 metr mewn diamedr - un waith a hanner yn fwy na Thelesgop Gofod Hubble.

“Llwyddodd y telesgop i ddal miloedd o ddelweddau o ranbarthau ffurfio-sêr, gan “weld drwy” gymylau nwy a llwch sy'n rhwystro golau gweladwy. Tynnodd Herschel filoedd o ddelweddau sydd wedi galluogi seryddwyr i ddysgu mwy am ffurfio sêr a galaethau. Bydd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar y rôl bwysig mae Prifysgol Caerdydd yn ei chwarae yn un o'r prif synwyryddion (SPIRE).”

Bydd yr arddangosfa hefyd yn dangos Telesgop Gofod Planck, a lansiwyd yn 2009, sydd wedi mapio'r “golau hynaf” yn y Fydysawd.  Prif nod y daith oedd astudio’r Cefndir Cosmic Microdon (CMB) - y cipolwg cyntaf o olau a allyrrwyd yn fuan ar ôl genedigaeth y Fydysawd (Big Bang).

Yn ogystal â modelau i raddfa o'r telesgopau, cynhelir arsylwadau byw o’r cosmos yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gyda chymorth Prifysgol De Cymru, gyda lluniau byw’n cael eu darlledu drwy ddau delesgop robotig pwerus yn Hawaii ac Awstralia.

Yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mae’r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn rhan bwysig o apêl y Maes, a dywed, “Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld mwy a mwy o ymwelwyr yn heidio i’r arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod, ac yn ei dro mae hyn wedi ein galluogi i ddenu arddangosfeydd, darlithwyr a siaradwyr mwy amlwg i gymryd rhan yn ein gweithgareddau. 

“Credaf bod gennym ni rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o hyrwyddo STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yng Nghymru, a braf yw gweld cynifer o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Unwaith eto eleni, bydd gennym ni nifer o arddangosfeydd gwerth chweil yn y Pafiliwn ac mae’r prosiect hwn ar gosmoleg yn bendant yn mynd i fod yn atyniad poblogaidd yn ystod yr wythnos.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar y Meysydd Gŵyl, Parc Arfordiol y Mileniwm, Llanelli, o 1-9 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan, www.eisteddfod.org.uk.

Rhannu |